John Gwilym Jones
Mae’r cyn-Archdderwydd John Gwilym Jones wedi ei urddo yn Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe gafodd ei ddewis trwy bleidlais unfrydol yng nghyfarfod Cyngor y Brifwyl yn gynharach eleni, a’i dderbyn yn ffurfiol mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn heddiw.

Fe enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1981, cyn dod yn Archdderwydd a chadeirio a choroni ei fab, Tudur Dylan, a’i frawd, Aled Gwyn, ym mhrifwyl 1995.

Ar ôl i’w dymor yn Archdderwydd ddod i ben fe fu’n gwneud gwaith Cofiadur yr Orsedd, cyn ildio’r swydd honno pan gafodd ei frawd, Jim Parc Nest, ei ethol yn Archdderwydd yn 2010.