Huw Marshall yn dangos blogwyrbro.com
Mae gan ymwelwyr â’r Eisteddfod gyfle i ddweud eu dweud mewn blog newydd sy’n casglu eu syniadau a’u barn am yr wyl a’r ardal.  

Wrth gyflwyno’r safle we blogwyrbro.com, dywedodd Huw Marshall o fudiad Haciaith ei bod hi’n bwysig i bawb o bob oed ddod yn hyderus wrth ddefnyddio’r dechnoleg newydd.

“Dw i’n gwybod fod yna ofn ymysg rhai pobol, a phobol o oed arbennig,” meddai, “ond mae’n bwysig fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio ar y we fwy a mwy.”

Mae gofod arbennig eleni o’r enw ‘Cefnlen’ ar gyfer rheiny sydd eisiau mwy o wybodaeth am dechnoleg a chyfrifiaduron. Mae aelodau o fudiad Haciaith yno i gynnig cyngor a help.