Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud wrth Golwg360 y bydd y Llywodraeth yn deddfu er mwyn gwahardd smygu mewn ceir os na fydd ymgyrch i annog gyrrwyr rhag smygu yn gweithio.

Roedd Lesley Griffiths ar y maes er mwyn lansio pecyn Cychwyn Iach sy’n rhoi cyngor ar sut i amddiffyn pobol rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law.

“Os ydych chi’n rhiant sy’n smygu peidiwch gwneud hynny yn y car – mae’r gwenwyn yn aros o fewn y car ac yn aml mae’r mwg yn chwythu at y plant,” meddai Lesley Griffiths.