Wali ac Arthur Picton
Mae gêm bêl-droed hir-ddisgwyliedig rhwng dau o gymeriad adnabyddus y gyfres C’mon Midffîld yn mynd rhagddi heno – er gwaetha’r glaw.
Mae rheolwr tîm Nantlle Vale wedi cadarnhau y bydd y gêm rhwng Tim Walter Tomos a Thim Arthur Picton yn digwydd ar gae Maes Dulyn am 6.45yh.
“Y drafferth efo gohirio’r gêm fasa trio cael y neges allan i bawb sydd wedi bwriadu dod,” meddai Aled Jones Griffith wrth golwg360 am 3 o’r gloch brynhawn heddiw. “Felly, rydan ni’n cario ymlaen efo’r trefniadau. Mae’n anffodus iawn, ar ôl yr holl waith trefnu, ein bod ni’n methu â threfnu’r tywydd.
“Ond yn fwy na hynny,” meddai, “mae’r gêm yn rhan o ddigwyddiad mwy, sef agor y cae yn swyddogol. Mae yna waith mawr wedi digwydd ar gae Maes Dulyn, ac mi fydd yna dimau ieuenctid yn chwarae cyn y gêm fawr.”
Fel rhan o fuddsoddiad o tua £200,000 yng nghae Maes Dulyn ym Mhenygroes, mae cwt newid newydd, ystafell gyfarfod, cegin a bloc toiledau wedi eu codi, ac mae’r hen eisteddle wedi ei adnewyddu. Mae’r cae wedi ei symud rhyw 20 troedfedd i gyfeiriad pentre’ Penygroes er mwyn gwneud lle i barcio ceir, ac mae system ddraenio wedi ei gosod o dan y cae.
“Mae cyflwr y cae yn reit dda,” meddai Aled Jones Griffith. “Rydan ni’n lwcus mai’r system ddraenio oedd un o’r pethau gafodd ei rhoi yn ei lle yn ystod y gwaith mawr diweddar.
“Mi fydd yna le i rhyw 150-200 o bobol i fochel rhag y glaw heno, felly y cyntaf i’r felin ydi hi!” meddai wedyn.
Fe gynhaliwyd gêm rhwng Tim Bryncoch a Thim Pobol y Cwm ar ddiwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle ac Arfon 1990, gyda Walter Tomos yn sgorio’r gôl a enillodd y gêm… cyn cael ei foddi gan 2,000 o blant ar y maes.