Tudur Dylan Jones
Er bod y tymor rygbi swyddogol wedi dod i ben, bydd cefnogwyr pedwar rhanbarth Cymru yn brwydro mewn modd gwahanol pan fyddant yn cwrdd nos Fercher nesaf.
Fydd yna ddim sgrym na sgarmes ar y cae rygbi, ond yn hytrach bydd y timau’n gobeithio ennill y ryc llenyddol mewn ymryson farddoniaeth.
Bydd Heno, rhaglen gylchgrawn nosweithiol S4C, yn darlledu’n fyw o ddigwyddiad ‘Ar y Fainc’ ym Mharc y Scarlets nos Fercher. Yno, bydd y tîm yn holi’r rhai fydd yn cymryd rhan, yn ogystal â’r dyfarnwr, y Prifardd Tudur Dylan.
Llŷr Gwyn Lewis – enillydd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaeth ddwy flynedd o’r bron, Uwch Gynhyrchydd Pobol y Cwm Ynyr Williams, Gruffudd Owen a Gwennan Evans yw cynrychiolwyr llenyddol y Gleision ar gyfer yr ymryson.
Ymhlith tîm y Dreigiau ar y noson bydd yr awdur Frank Olding, Aled Evans, Huw Meirion Edwards (Enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004) ac Ion Thomas.
Bydd y beirdd adnabyddus Mari George, Idris Reynolds ac Osian Rhys Jones sy’n ymuno ag enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam llynedd, Rhys Iorwerth, i farddoni ar ran y Gweilch.
Y Prifardd aml-dalentog Emyr Lewis, Bardd Plant Cymru Eurig Salisbury, cyflwynydd Heno Aneirin Karadog ac Iwan Rhys yw cystadleuwyr y Scarlets.
Bydd Aneirin Karadog yn cyflwyno’n fyw o Barc y Scarlets ar ran Heno cyn ymgymryd â’r her farddonol yn cynrychioli rhanbarth y Scarlets.
Meddai Aneirin, sydd bellach yn byw ym Mhontyberem, “Gaethon ni ddigwyddiad tebyg y llynedd fel rhan o flwyddyn tysteb Dafydd Jones ac roedd yn llwyddiant mawr. Pryd hynny, wnaethon ni greu tîm tebyg i’r Barbariaid gan wahodd beirdd adnabyddus fel yr Archdderwydd Jim Jones, Mererid Hopwood ac Idris Reynolds i gystadlu yn erbyn eu gilydd.
“Gyda’r fformat tipyn yn wahanol eleni a’r ysbryd cystadleuol rhwng y rhanbarthau, rwy’n siŵr bydd hi’n noson ddiddorol. Fe fydd y beirdd yn gorfod cwblhau’r tasgau yn fyw ar y noson – sy’n gymysgedd o gyffro a nerfusrwydd gan ein bod yn cystadlu nid yn unig yn erbyn ein gwrthwynebwyr ond yn erbyn y cloc hefyd. Efallai y cawn ni gampweithiau ymhlith y farddoniaeth ac efallai bydd yna rai sy’n mynd yn syth i’r bin!
“Mae Tudur Dylan wedi benthyg gwisg dyfarnu Nigel Owens ar gyfer y noson er mwyn trio cadw rheolaeth ar bawb ac fe fyddan ni wedi gwisgo crysau ein rhanbarthau.
“Mae mynediad i’r noson am ddim ac mae yna groeso cynnes i bawb i ddod erbyn 7.00pm. Pa mor aml allwch chi ddweud eich bod wedi gweld gornest lenyddol ym Mharc y Scarlets? Mae’n addo bod yn noson gyffrous iawn – ac efallai gewch chi tips barddoni hefyd!”
Gwestai arbennig y noson fydd cyn-flaenwr Cymru a’r Scarlets Dafydd Jones a bydd Alun Wyn Bevan yn cynnal cwis arbennig wrth i’r beirdd gwneud eu tasgau’n fyw.