Emyr Phillips, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013
Gyda dim ond diwrnod a hanner i fynd o brifwyl yr Urdd Eryri 2012, fe fydd pobol ifanc o aelwydydd Crymych a Maenclochog, yn camu i lwyfan y Pafiliwn y prynhawn yma, er mwyn croesawu pawb i Sir Benfro y flwyddyn nesa’.
Fe fydd eu cyflwyniad yn tywys y gynulleidfa ar daith o gwmpas Sir Benfro – o Barc Antur Oakwood i dre’ Dinbych-y-Pysgod i Gastell Cenarth.
Dros hanner ffordd at y targed
Mae Sir Benfro eisioes wedi codi dros 60% o darged o £251, 000. Ym mis Mai cynhaliwyd gŵyl gyhoeddi yng nghanol tre’ Hwlffordd, lle’r oedd cannoedd o blant, pobl ifanc ac oedolion yn cyd-gerdded trwy ganol y dref cyn ymgasglu am jambori.
‘‘Mae pobol Sir Benfro yn edrych ymlaen at estyn croeso cynnes i’r Eisteddfod ac i Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru i’r ardal yn 2013,” meddai Emyr Phillips, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro.
“Rydym wedi codi ymwybyddiaeth yng ngwaelod y sir am yr Eisteddfod ac rwy’n ddiolchgar i bob pwyllgor apêl am gyfrannu’n hael i fewn i’r cronfa.”