Dw i ddim yn berson offerynnol, o bell ffordd, ond fe gefais fy siomi ar yr ochr orau wrth i mi wylio rhagbrawf yr ensemble offerynnol i flynyddoedd 7, 8 a 9. Cefais y profiad o wrando ar y corn Ffrengig am y tro cyntaf erioed, ac roedd safon uchel yr holl gystadleuwyr ifanc yn gwneud imi ddifaru nad oes nodyn ychydig bach mwy cerddorol yn fy ngwaed!
Os ydych chi ar y maes ben bore, mae yna ambell wledd gyfrin i’w gael yn y rhagbrofion!
Roedd rhaid manteisio ar dywydd sych y bore i grwydro ychydig ar y stondinau, ac roedd atgofion melys o Eisteddfodau’r gorffennol yn llifo’n ôl wrth i mi fynd heibio i stondinau fel ‘Tywod Hud’ a ‘Cadwyn.’ Traddodiad blynyddol oedd llenwi gwahanol siapiau gyda thywod lliwgar a synnwn i ddim bod degau o keyrings gyda fy enw wedi ei ysgythru arnynt yn dal i loetran o gwmpas y tŷ. O wneud bathodynnau a thynnu lluniau i wneud anifeiliaid allan o falŵns, roedd yna blant yn prysur fwynhau ymhob stondin, a braf iawn fuasai bod yn ifanc i gael ymuno â nhw!
Seren leol
Un stondin wreiddiol a newydd a dynnodd fy llygaid oedd ‘Rainbow Stars’ sef dyn lleol sydd wedi dechrau creu mwclis a chlustlysau o wellt; maent yn werth eu gweld. Mae yna lawer mwy o stondinau yn gwerthu anrhegion, gemwaith a deunydd merchetaidd ar gyfer y tŷ eleni, a hawdd iawn fyddai gwario gormod.
Roedd y stondin Gerdd Dant yn fwrlwm o weithgareddau, gydag offerynwyr a chlocswyr yn perfformio fel y mynnent, ac unwaith eto, digon o stondinau llyfrau i ddiddanu pawb o bob oed. Mae gan y tair Ysgol Uwchradd leol stondinau sy’n werth ymweld â hwy, gyda digon o hen luniau i brocio’r cof. Ac wrth gwrs, does yr un Steddfod yn gyflawn heb yr hen ffefrynnau dillad, ac er bod gennyf ddigon o hwdis i bara blynyddoedd, dwi wrth fy modd yn cael busnesu ar sloganau newydd Cowbois, Shwl di Mwl a Celtes. Un o’r sloganau Grand Slam newydd gan Cowbois sydd wedi dal fy llygaid eleni.
Os am hoe fach o’r stondinau, mae’n werth picio draw i’r Arddangosfa Celf, Dylunio a Thechnoleg, lle mae’r cynnyrch amrywiol yn symud, cyffroi a dathlu ymhob cornel o’r ystafell. Mae pen-blwydd Mistar Urdd yn 90 a’r Gemau Olympaidd yn cael sylw amlwg ynghanol yr holl ddoniau lliwgar, ac mae’n rhaid i bawb gael cyfarfod Siân, Cawres Ysbyty Ifan a luniwyd gan blant yr ysgol leol gyda chymorth yr artist Luned Rhys Parri.
Saethu Mr Urdd
Ar ôl cael ei lusgo i’r maes yn fuan yn y bore a’i orfodi i ddod o gwmpas y stondinau gyda mi, er mwyn cadw fy nghariad yn ddistaw, roedd rhaid mynd am dro i’r ardal chwaraeon ym mhentref Mistar Urdd.
Yn anffodus, roedd yn hen i gystadlu ar y penalty shoot-out, ac felly cafodd y ddau ohonom dro ar y saethyddiaeth, rhywbeth nad oeddwn erioed wedi ei wneud o’r blaen. A chyda lwc dechreuwr go iawn, llwyddais i daro’r bullseye ar yr ail gynnig yn unig! Rhwng y wal ddringo, y trampolîn, y beiciau cwad, zorbio dŵr, canŵio ac ymarferion pêl-droed a rygbi, mae digon o bethau egnïol i’w wneud ar y maes.
Llwyddiannau llenyddol
Wedi gweld dwy awdures leol yn dod i’r brig yng ngwobrau Tir Na Nog, pleser o’r mwyaf oedd gweld fy nghyd-fyfyriwr o Aber yn codi yn y Pafiliwn yn y Seremoni Cadeirio. Does yna neb yn fwy haeddiannol o glod Eisteddfod yr Urdd 2012 na Gruffydd Antur, brodor o Lanuwchlyn sy’n fyfyriwr ail flwyddyn yn astudio ffiseg ac sy’n hen law yn barod ar y busnes cynganeddu yma.
Gyda dwy gadair Rhyng-gol yn addurno ei stafell wely, bu Gruff yn gyfrifol am godi Clwb Llenyddol Taliesin yn nol ar ei draed eleni ac nid pawb allai ddweud fod Prifardd newydd yr Urdd wedi bod yn rhoi gwersi cynghaneddu iddyn nhw yn y Cwps! Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen y gerdd yn ei chyfanrwydd yn y cyfansoddiadau fydd yn cael ei ryddhau prynhawn yfory.
Felly, gyda myfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi ennill y Fedal Gyfansoddi, myfyriwr o Fangor wedi cipio’r Fedal Ddrama a’r Gadair i fyfyriwr o Aberystwyth, tybed i le aiff y Goron yfory