Mwd, mwd, mwd ar faes parcio Glynllifon
Mae mwd ar faes parcio Eisteddfod yr Urdd yn golygu fod yna geir yn sglefrio wrth fynd a dod.

Ers ben bore heddiw, mae cerbydau i’w gweld yn methu â chadw at y llwybrau treuliedig rhwng y rhesi o geir wedi parcio.

Ar faes yr Eisteddfod ei hun, mae’r traciau metal yn arbed traed eisteddfodwyr rhag y mwd.

Ond mae glaw yn dal i syrthio, ac mae’r rhagolygon yn addo mwy o wynt a glaw…