Mae ymgyrch newydd i dynnu sylw pobl ifanc at beryglon ysmygu yn cael ei lansio ar stondin Cyngor Gwynedd ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Yr hyn sy’n wahanol am yr ymgyrch hon ydi fod y negeseuon a’r deunyddiau wedi cael eu llunio gan bobol ifanc eu hunain, gyda chymorth dylunydd proffesiynol.
Mae’r pecynnau yn cynnwys cardiau ffeithiau am dybaco, sy’n trafod pynciau fel peryg ysmygu yn y cartref, ysmygu tra’n feichiog, cost prynu sigaréts, ysmygu mewn ceir, a’r mythau sy’n cynnig fod ysmygu yn eich gwneud yn denau, neu nad ydi ysmygu tra’n feichog yn gwneud niwed i’r babi.
“Mae ystadegau’n dangos y bydd hanner y bobl sydd wedi ysmygu ar hyd eu hoes yn marw o ganlyniad i’w dibyniaeth, a’r ieuengaf yr ydach chi’n cychwyn ysmygu, y mwya’ tebygol ydach chi o farw o afiechyd sy’n gysylltiedig ag ysmygu,” meddai Sioned Williams, Pennaeth Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd.
Ar ôl yr Eisteddfod bydd y cardiau yn cael eu darparu o amgylch holl wasanaethau ieuenctid Cyngor Gwynedd, yn cynnwys y clybiau ieuenctid. Bydd gweithwyr yn y maes iechyd yn defnyddio’r cardiau fel rhan o’u gwaith ac yn sicrhau bod y neges yn cael ei rannu ymysg pobl ifanc Gwynedd.