Logo cylchgrawn Y Ddraig
Fe fydd myfyrwyr blwyddyn gynta’ Aberystwyth yn cyhoeddi cylchgrawn newydd ar Faes Glynllifon ddiwedd yr wythnos. 

Bwriad Y Ddraig ydi rhoi cyfle i stiwdants y modiwl ‘Cymraeg Proffesiynol’ ddefnyddio’r sgiliau maen nhw wedi eu dysgu yng nghorff y flwyddyn.

Mae’r sgiliau hynny’n cynnwys golygu, ysgrifennu datganiadau i’r wasg, ysgrifennu adroddiadau, denu cyfranwyr, cytuno ar gynllun, comisiynu clawr, yn ogystal â gweinyddu a chasglu nawdd.

Yn y lansiad swyddogol ar stondin Prifysgol Aberystwyth brynhawn Sadwrn, Efa Gruffydd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, fydd y siaradwraig wadd.