Malcolm Allen ar faes Eisteddfod yr Urdd Eryri, 2012
Mae Llywydd y Dydd, Eisteddfod yr Urdd Eryri heddiw, yn derbyn yr anrhydedd “fel un o’r bobol gyffredin”.
Mae’r pêl-droediwr o Ddeiniolen, Malcolm Allen, yn ei ystyried hi’n “anrhydedd” cael bod yn Llywydd, ac yn dweud pa mor bwysig ydi hi i bobol ifanc gael defnyddio eu talentau amrywiol trwy gyfrwng mudiad fel yr Urdd.
“Mi fyddai’n ddiolchgar i’r Urdd am byth am y cyfle hwn,” meddai. “Dw i’n derbyn yr anrhydedd fel un o’r bobl gyffredin.
“Mae’n bwysig bod pawb yn cael y cyfle i ddefnyddio’u talent. Mae’r Urdd yn rhywbeth i bawb, nid dim ond cantorion a llenorion yn unig.”
Mae Malcolm Allen wedi ennill 14 cap dros Gymru (rhwng 1986-1993) ac wedi gwneud ei farc ym maes pêl-droed proffesiynol ac yn rhyngwladol dros Gymru. Ond fe ddechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Watford ym mis Mawrth 1985 – oedd yn golygu symud o’i annwyl “Lanbabo” – hen enw ar bentre’ Deiniolen.
”Y gelyn mwya’ bryd hynny oedd hiraeth,” meddai Malcolem Allen, “ac mi wnes i sylweddoli faint mor lwcus o’n i o gael byw yn y fro yma.”
Bellach, mae Allen yn sylwebydd a’r gemau pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair Cymru ar y rhaglen ‘Sgorio’. Ond ychydig iawn ohonom sy’n gwybod am lwyddiant y gŵr 45 a ennillodd ar lwyfan yr Urdd yn Y Barri yn 1977 yn y gystadleuaeth gân actol.
”Wedi’r llwyddiant, cawsom ni wahoddiad gyda Seindorf Arian Deiniolen i berfformio mewn cyngerdd yn yr Albert Hall yn Llundain. Profiad â hanner!,” dywedodd Allen.