Mae cogydd 14 oed yn cyhoeddi ei llyfr o ryseitiau ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Anna Rees, enillydd y gyfres ''Cog1nio''
Anna Rees, o bentre’ Creigiau ger Caerdydd, oedd enillydd y gyfres goginio Coginio ar wasanaeth plant a phobol ifanc Stwnsh ar S4C.
Yn y gyfrol, Coginio, mae Anna yn rhannu pump o’i hoff ryseitiau, yn ogystal â ryseitiau gan gogyddion adnabyddus a beirniaid y gyfres – Elin Williams (o Bant a la Cart, Caerdydd), y cogydd Aled Williams (o fwyty Cennin, Biwmares) a chyflwynwriag y gyfres, Ellen Roberts.
“Dw i wrth fy modd yn arbrofi gyda bwyd,” meddai Anna Rees. “Efallai yr hoffwn i gael gyrfa fel cogydd pan fydda’ i’n hŷn.
“Mae hi wedi bod yn dipyn o sioc i ennill cystadleuaeth Coginio, ac mi fydd yn fraint gweld fy ryseitiau mewn print. Mae’n gyffrous meddwl fod pobol yn mynd i fod yn coginio fy ryseitiau i adref yn eu ceginau”
Ar gyfer cystadleuaeth Coginio, roedd gofyn i’r cystadleuwyr goginio eu ryseitiau eu hunain, yn ogystal ag ail-greu prydau gan gogyddion proffesiynol.