Y Maes, pnawn Mercher
Fe ddaeth 14,304 o bobol i faes Eisteddfod yr Urdd 2012 yng Nglynllifon heddiw.

Mae hynny 1,691 yn fwy na’r nifer a fu ar faes yr wyl yn Abertawe y llynedd (12,613).

Mae’n ymddangos fod y problemau traffig bellach wedi’u datrys, ac mae pobol wedi bod yn llwyddo i gyrraedd y Maes mewn munudau yn hytrach nag oriau.

Bellach, mae cyfanswm o 62,738 o ymwelwyr wedi bod ar y Maes ar safle Glynllifon sydd ar fin priffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli.

Mae’r trefnyddion wedi gosod nod o 100,000 o ymwelwyr dros y chwe niwrnod o gystadlu.