Ray Bradbury
Mae’r awdur Ray Bradbury wedi marw yn 91 oed, ar ôl gyrfa yn ysgrifennu popeth o ffuglen wyddonol i lyfrau digrif.
Dywedodd ei ferch, Alexandra Bradbury, fod ei thad wedi marw yng Nghalifornia neithiwr.
Mae’n fwyaf enwog em ei nofel ffuglen wyddonol am losgi llyfrau, Fahrenheit 451, a gyhoeddwyd yn 1953.
Roedd hefyd wedi ysgrifennu sgript ffilm Moby Dick 1956, a gafodd ei ffilmio yn rhannol yn Sir Benfro.