Mae Eisteddfod yr Urdd wedi enwi’r pedwar a fydd yn llywyddion anrhydeddus yr ŵyl ym Mae Caerdydd eleni.
Yn flynyddol, mae Urdd Gobaith Cymru yn anrhydeddu pobol sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r mudiad dros gyfnod o flynyddoedd.
Mae pedwar Llywydd Anrhydeddus eleni, ac fe fyddan nhw’n cael eu hanrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan yr ŵyl ar y dydd Llun cyntaf (Mai 27).
Y pedwar yw’r cyfarwyddwr a’r dramodydd, Emyr Edwards; y cerddor ac arweinydd, Alun Guy; y nyrs, Gaynor Jones, ac un o arweinwyr yr Urdd yn y brifddinas, Gwilym Roberts.
“Cymwynaswyr i’r mudiad”
“I blant a phobol ifanc Caerdydd a’r Fro a thu hwnt, yn Gymry ac yn ddysgwyr, y pedwar yma fu wynebau’r Urdd i bob pwrpas am ddegawdau,” meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Maen nhw yn wir gymwynaswyr i’r mudiad ac mae hi’n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr ŵyl eleni.
“Mae’r mudiad yn ddibynnol ar bobol weithgar, cydwybodol fel hyn i’w gynnal a’i hyrwyddo a dangos pa mor werthfawr, a chymaint o hwyl, ydi bod yn aelod o’r Urdd.”
Bydd Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro yn cael ei chynnal rhwng Mai 27 a Mehefin 7.