“Wy wedi dweud hon o’r blaen… oes eisie i mi ei dweud hi eto?” meddai Lyn Ebenezer am y noson y daeth Pontsiân, Cynan ac yntau at ei gilydd o gwmpas bwrdd mewn tafarn, a bondio dros rannau o bryddest ‘Mab y Bwthyn’.
Mae’n un o’r straeon yn ei ddarlith i nodi chwarter canrif ers marwolaeth Gwilym Eirwyn Jones – Eirwyn Pontsiân – yn 1994.
Roedd y ddau gyfaill wedi treulio’r prynhawn yn ’dathlu’ cadair Dic Jones, cyn bod y cadeirio wedi digwydd nac enw’r bardd wedi’i gyhoeddi’n swyddogol, pan benderfynodd y gwestywr fod y bar yn cau i’r rheiny nad oedd yn aros yno.
Ond yna, yn sydyn, fe laniodd car mawr y tu allan i ddrws y lle, ac fe ddaeth un o gobanau hufen yr Orsedd allan o’r cerbyd a cherdded i mewn. Dyna pryd yr aeth Eirwyn Pontsiân ar ei liniau ar lawr, cydio yng nghoesau Cynan, y Cofiadur, a diolch iddo am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg.
Roedd hynny’n ddigon, am y tro, i Cynan – a oedd yn aros yn y gwesty – berswadio dyn y bar i ail-agor ei stondin, ac fe eisteddodd y tri o gylch y bwrdd i sgwrsio. Eirwyn Pontsiân yn adrodd rhannau helaeth o bryddest ‘Mab y Bwthyn’ Cynan ar ei gof, a Lyn Ebenezer yn trafod y byd a’i bethau gydag un o hoelion wyth y sefydliad eisteddfodol.
“A dyna pryd,” meddai Lyn Ebenezer, “y trodd Eirwyn at Cynan, a gofyn, ‘Gan ein bod ni nawr yn gymaint o ffrindiau, ga’ i eich galw chi’n Cyn?’ Roedd Cynan yn dipyn o foi, ac roedd gen i dipyn o feddwl ohono wedi’r diwrnod hwnnw.
“Ac Eirwyn? Diolch iddo, ac iddo bo’r diolch, am bopeth.”