Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau bod yna “drafodaethau yn digwydd” er mwyn dathlu camp Geraint Thomas – y Cymro cynta’ erioed i ennill y Tour de France.
Tridiau sydd yna nes y bydd y brifwyl yn agor ym Mae Caerdydd, ac mae yna ddyfalu yn barod ynglŷn â sut y bydd camp y seiclwr o’r brifddinas yn cael ei dathlu yno.
Fe lwyddodd Geraint Thomas i ennill y Tour De France dros y penwythnos, ac mae Cyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n trafod sut i ddathlu’r fuddugoliaeth.
Ond er nad oes unrhyw gynlluniau pendant wedi’u cadarnhau eto, mae’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd wedi dweud eu bod nhw am fod yn “rhan” o’r dathliadau, ac yn gobeithio “croesawu” Geraint Thomas i’r Bae yr wythnos nesa’.
Dysgu gwersi o’r Ewros yn 2016
Ddwy flynedd yn ôl, yn dilyn llwyddiant tim pel-droed Cymru ym mhencapwriaeth yr Ewros yn Ffrainc, fe fu cryn feirniadu ar drefnwyr y brifwyl am beidio ag ymateb yn ddigon cyflym.
Doedd hi ddim yn bosib i gynnig anrhydedd gorseddol i’r un o’r chwaraewyr, gan fod dyddiad cau derbyn ceisiadau ym mis Chwefror. At hynny, mae’n rhaid i bawb sy’n cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd fedru siarad Cymraeg.
Mae’r un pethau’n wir am sefyllfa Geraint Thomas eleni. Fe ddaeth ei lwyddiant yn rhy hwyr iddo gael ei ystyried ar gyfer gwisg werdd, ac er bod ei dad yn Gymro Cymraeg, dydi’r seiclwr ddim yn medru’r iaith.
“Profiad arbennig”
“Roedd yn brofiad arbennig iawn gweld Cymru’n cael ei dathlu ar lwyfan byd eang fel y Tour de France,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Mae’n sicr y bydd dathliadau i’w gweld yng Nghaerdydd pan fydd Geraint Thomas yn dychwelyd i’r ddinas, a byddwn yn cynnal trafodaethau gyda phartneriaid amrywiol dros y dyddiau nesaf i weld a oes modd i’r Eisteddfod fod yn rhan o hyn.
“Ein gobaith yw y gallwn groesawu Geraint i’r Eisteddfod yn y Bae.”