Fe fydd swydd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei hysbysebu yn y wasg ddechrau’r wythnos nesaf.

Fe ddaeth cadarnhad yn ystod cyfarfod Cyngor y brifwyl yn Aberystwyth heddiw fod cyfarfod o’r Bwrdd Rheoli nos Wener wedi rhoi sel ei fendith ar y pecyn gwybodaeth.

Dyddiad cau derbyn ceisiadau fydd Ionawr 12, 2018, gyda chyfweliadau’n cael eu cynnal ddechrau mis Chwefror.

Y bwriad wedyn, yn ôl y Bwrdd Rheoli, ydi i’r darpar Brif Weithredwr ymuno â’r staff ym Mehefin, gan weithio gydag Elfed Roberts dros gyfnod prifwyl Caerdydd.

Fe ddaeth cadarnhad hefyd, gan Elfed Roberts ei hun, y bydd o’n camu o’i swydd ymhen blwyddyn i nawr, ar ôl gwerthuso prifwyl y brifddinas.