Roedd camgymeriad yng nghynllun y Babell Lên ym mhrifwyl Ynys Môn eleni, oedd yn golygu nad oedd pobol oedd yn eistedd yn y cefn yn gweld yr hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan.

Mewn ymateb i sylw gan y cyn-Archdderwydd Jim Parc Nest, a oedd yn gofyn a oedd modd gwneud yn siwr fod yna rediad i lawr y Babell Lên, fe gadarnhaodd y Trefnydd, Elen Elis, mai camgymeriad oedd yn gyfrifol am y sefyllfa eleni.

“Roedd y llwyfan i fod yn uwch eleni, a’n camgymeriad ni oedd hwnnw eleni,” meddai Elen Elis.

Ac fe ddaeth cadarnhad hefyd gan y Prif Weithredwr mai adeilad tebyg i eleni fydd yng Nghaerdydd yn 2018.

Mae hynny wedi’i benderfynu er na fydd Maes ffurfiol y flwyddyn nesaf, ac er y bydd rhai o adeiladau’r brifddinas yn cael eu defnyddio i gynnal digwyddiadau a chystadlaethau.