Mae’r ffrae ddiweddar dros Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn yn dangos bod angen “statws arbennig” ar y ddwy sir.
Dyma yw neges awdur asesiad annibynnol o’r cynllun, a fu’n annerch torf ar faes yr Eisteddfod, yn ystod cyflwyniad Dyfodol i’r Iaith heddiw.
Yn ôl Huw Prys Jones, dyw’r sustem gynllunio bresennol “ddim yn gweithio” ac mae angen cyflwyno mesurau i ddiogelu’r iaith mewn ardaloedd o “arwyddocâd ieithyddol arbennig”.
“Ddim yn gweithio”
“Mae’n hollol amlwg tydi [y sustem gynllunio presennol] ddim yn gweithio,” meddai wrth golwg360. “Dydy o ddim yn gweithio’n dda mewn unrhyw rhan o Gymru ac yn sicr ddim yng Ngwynedd a Môn – cadarnleoedd y Gymraeg. Dw i’n gweld fod angen rhyw fath o gydnabyddiaeth i’r amrywiaeth o fewn Cymru ond yn arbennig i siroedd fel Gwynedd a Môn.”
“Mi fydd canllawiau cynllunio newydd [gan y Llywodraeth] yn dod allan yn weddol fuan, a baswn i’n pwyso’n arw bod nhw’n rhoi sylw arbennig i ardaloedd sydd o arwyddocâd ieithyddol arbennig.
“chos y drwg ydi, os ydan ni ond yn cael canllawiau sydd i fod yn addas ar gyfer Cymru gyfan, mi fydd o’n mynd ar ôl rhyw fath o lowest common denominator mewn cynlluniau fydd yn addas ar gyfer trefi a dinasoedd y de ddwyrain, ac ni fydd y Gymraeg yn cael y sylw dyladwy.
“Yn sicr, os ydi cymunedau yn Lloegr yn cael cyflwyno mesurau i amddiffyn gwead cymdeithas a’i naws, yn sicr mae gynnon ni fwy o rheswm yng Nghymru i fynnu’r un fath o statws ein hunain.”
Croesawu cyhoeddiad
Mae Huw Prys Jones wedi croesawu cyhoeddiad bore heddiw gan Llywodraeth Cymru, y gallai rôl Comisiynydd y Gymraeg gael ei ddiddymu.
Dywed bod y sustem bresennol gyda’r Comisiynydd Gymraeg yn “ddryslyd” ac mae’n credu y gallai corff newydd – tebyg i’r Bwrdd Iaith yn y gorffennol – fod yn “gorff ddelfrydol” er mwyn gosod statws arbennig ar y gogledd orllewin.
“Faswn i’n meddwl mai [Bwrdd Iaith ar ei newydd wedd] fyddai’r corff ddelfrydol i rhoi’r fath yna o statws i’r ardaloedd yma a gosod canllawiau cynllunio ar gyfer datblygu economaidd a sawl peth arall.”