Sonia Edwards o Langefni gododd i dderbyn Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn brynhawn heddiw – ddeunaw mlynedd yn ers gwneud yr un peth yn Llanbedr-goch yn 1999.
Y dasg eleni oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema ‘Cysgodion’.
Casgliad o chwe stori oedd yn archwilio agweddau ar berthyn oedd y gwaith buddugol.
Yn ôl y beirniaid mae’r storïau yn “aeddfed ac yn llawn empathi gan lenor sydd yn meddu ar ddawn dweud”.
Yn wreiddiol o Gemaes, Ynys Môn, cafodd Sonia Edwards ei haddysgu yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a Phrifysgol Bangor.
Bu’n athrawes Gymraeg cyn ymddeol yn gynnar i ganolbwyntio ar ysgrifennu.
Mae’n byw yn Llangefni, ac yn fam i Rhys.
Y beirniaid oedd Francesca Rhydderch, Lleucu Roberts a Gerwyn Wiliams. Cyflwynwyd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Bwyllgor Cronfa Eisteddfod Genedlaethol Môn 1957.