eis
Fe ddaeth cadarnhad mai 15,831 o bobol aeth trwy’r clwydi i Faes prifwyl Ynys Mon ar y dydd Sadwrn cyntaf – y nifer mwyaf ers i’r brifwyl ymweld â Sir Ddinbych yn 2013.

Dan awyr las, ac mewn awel braf, fe gynhaliwyd cystadlaethau’r bandiau pres a dwy gystadleuaeth gorawl ym Modedern heddiw.

Dyma sut mae’r ffigwr ar gyfer y diwrnod llawn cyntaf yn cymharu â’r blynyddoedd diwethaf:

Bodedern, 2017 – 15,831

Y Fenni, 2016  –  15,286

Meifod, 2015  –  15,023

Llanelli, 2014  –  15,615

Dinbych, 2013  –  16,571

Llandw, 2012  –  18,207

Wrcesam, 2011  –  17,881

Glynebwy, 2010  –  14,702