J Tudor Davies yn gwisgo'r goron arian o waith John Price (Llun: Liz Evans)
Cafodd Monwysyn sydd bellach yn byw yng Nghanada ei goroni yn ystod Eisteddfod Goronog Llandegfan ym Môn neithiwr.
Yn enedigol o bentref Talwrn ym Môn ac yn gyn-athro a ffermwr, fe dreuliodd J Tudor Davies gyfnodau yn Llanpumsaint, Caerfyrddin a Phontyberem, cyn mynd i Ganada.
Mae’n dad i’r bardd, Nia Môn, a Rhian Medi, ac yn dad-yng-nghyfraith i’r awdur Dewi Prysor.
Mae wedi ennill cystadlaethau’r Soned a’r Hir-a-thoddaid yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dychwelodd yn unswydd o Ganada i Landegfan ar gyfer seremoni’r coroni neithiwr.
Y gystadleuaeth
Cafodd y goron ei rhoi ar gyfer cerdd neu gyfres o gerddi caeth neu rydd oddeutu 100 llinell (sydd heb fod yn fuddugol yn yr eisteddfod hon o’r blaen) ar y testun ‘Cofio/Atgof’.
Siân Teifi oedd y beirniad.