Parc Penbedw, a maen (ar dde eithaf y llun) i nodi'r man lle cynhaliwyd Eisteddfod y Gadair Ddu ym Medi 1917 (Llun: golwg360)
Ni fydd Gorsedd y Beirdd yn mentro dros Glawdd Offa er mwyn cymryd rhan yng Ngŵyl Eisteddfod Hedd Wyn ym Mhenbedw yn ddiweddarach eleni.
Bydd Gŵyl Hedd Wyn yn cael ei chynnal ym Mharc Penbedw rhwng Medi 8-10, er mwyn nodi canrif union ers i’r brifwyl gael ei chynnal yno – ac i Hedd Wyn ennill y ‘Gadair Ddu’.
Fe ddaeth cadarnhad gan swyddogion yr Orsedd bod llythyr wedi’i dderbyn gan drefnwyr Eisteddfod Hedd Wyn ar lannau Merswy yn gwahodd derwyddon i’r digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal mewn pabell helaeth yn y Parc.
Ond, yn hytrach na chywain aelodau yn eu cobanau gwyn, glas a gwyrdd, fe fydd yr Archdderwydd Geraint Llifon yn cynrychioli’r Orsedd a rhai aelodau eraill yn mynd yno ar eu liwt eu hunain.
“Ar ran yr orsedd”
“Mi fydda’i yno fel Archdderwydd ar ran yr Orsedd, ond ddim yn y wisg,” meddai Geraint Lloyd Owen (yr Archdderwydd Geraint Llifon) wrth golwg360.
“Fydda’ i ddim yn gwneud unrhyw beth, fyddai’n figurehead – arweinydd mewn enw – i’r holl beth.
“Mi fydda’i yno, a dw i’n gobeithio bydd rhai o aelodau’r orsedd yn gweld y ffordd yn glir i fod yno yn ogystal. Ond galla’i ddweud ddim mwy nag hynny.”
Y maen ym Mharc Penbedw (Llun: golwg360)
Llythyr at y Bwrdd
Ychydig fisoedd yn ol, fe dderbyniodd Bwrdd yr Orsedd lythyr gan D Ben Rees, un o drefnwyr yr wyl yn Lerpwl, yn ei gwahodd i’r digwyddiad fis Medi.
Penderfyniad aelodau’r Bwrdd mewn cyfarfod yn Aberystwyth oedd anfon yr Archdderwydd yn unig ar ei rhan.
Mewn ymateb ebost i golwg360, mae’r Arwyddfardd, Dyfrig Roberts (Dyfrig ab Ifor yng Ngorsedd), yn dweud y fydd “yr Archdderwydd yn cymryd rhan yn y seremonïau, ond nid trefniant gan yr Orsedd fydd honno”.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos Medi 8-10, ac fe fydd llu o weithgareddau a digwyddiadau yn cynnwys dadorchuddio cofeb i Hedd Wyn; cymanfa ganu; eisteddfod Cymry Lerpwl; a thaith o amgylch y ddinas.
Yr Orsedd y tu allan i’r brifwyl
Gan fod Gorsedd y Beirdd yn gymdeithas sy’n hollol annibynnol i’r Eisteddfod Genedlaethol, mae ganddi yr hawl i gynnal seremonïau a gweithgareddau y tu allan i wythnos y brifwyl bob blwyddyn.
Ond dydi hynny ddim yn digwydd yn aml.
Yr unig ddau eithriad diweddar ydi gorymdaith i nodi canrif erd geni Cynan ym Mhwllheli yn 1995; ac ailsefydlu Gorsedd y Wladfa ym Mhatagonia yn 2001.