Mae omnibws wythnosol Pobol y Cwm yn dychwelyd i S4C unwaith eto, yn rhan o nifer o newidiadau sy’n digwydd ddechrau mis Mai eleni.
Mae’r omnibws – gydag isdeitlau ar y sgrin – yn gyfle i ddal fyny â holl straeon yr opera sebon. Fe fydd yn cymryd lle’r ail-ddarllediadau dyddiol sydd, ar hyn o bryd, am 6 o’r gloch o nos Lun i nos Wener.
“Wrth adolygu adborth ein gwylwyr, buon ni’n ystyried pa newidiadau oedd yn bosib er mwyn ymateb i’w dymuniadau,” meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C.
“Am fod gemau rygbi byw bellach wedi symud i nos Sadwrn, mae hynny wedi agor amser i ni ar brynhawn Sul. Mae wedi rhoi cyfle i ni edrych o’r newydd ar ailddarllediadau Pobol y Cwm ac ymateb i wylwyr sydd wedi gweld eisiau’r Omnibws bob dydd Sul.”
Fe fydd yr omnibws cyntaf i’w weld am 5.30yp ar nos Sul. Mai 7.