'Llandaff Court' gan Joan Baker
Bu farw’r wraig gynta’ i redeg adran gelf mewn coleg yng Nghymru.
Roedd yr artist, Joan Baker, yn 94 oed ac yn byw yn y ty ger Parc Fictoria yng Nghaerdydd lle cafodd ei geni. Fe fu’n bennaeth ei hadran yng Ngholeg Celf Caerdydd, yn ogystal â bod yn artist ei hun.
Fe fu’n creu tirluniau am dros 70 mlynedd, ac ymhlith yr artistiaid a fu’n ddylanwad arni, roedd Ceri Richards.
Roedd hithau’n ddylanwadol fel darlithydd, ac ymhlith ei disgyblion yr oedd Ernest Zobole.