Fe fydd gan Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ei stondin ei hun ar y Maes ym mhrifwyl Mon eleni – y tro cyntaf i’r corff gael presenoldeb ffurfiol ar y cae.
Bwriad y stondin, sy’n cael ei chydlynu gan Gethin Thomas (cadeirydd Pwyllgor Gwaith Sir Gar 2014); Beryl Vaughan (Cadeirydd Meifod 2015); a Heledd Fychan, un o aelodau ieuengaf y Cyngor; ydi egluro i’r cyhoedd sut mae pethau’n gweithio.
Yn benodol:
– ceisio denu mwy o bobol i ymaelodi â Llys yr Eisteddfod Genedlaethol;
– trio cael mwy i brynu tocyn lotri’r brifwyl;
– atgoffa eisteddfodwyr bod modd iddyn nhw adael arian i’r Genedlaethol yn eu hewyllysiau, a hynny gyda chymorth cynrychiolwyr Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru;
– dangos y cyfleoedd sydd yna i wirfoddoli cyn ac yn ystod prifwyliau;
– sut y mae gwahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i ardal, a sut mae cyfrannu gwobrau.
“Mae’r stondin hon ar Faes Mon eleni ar gais y Cyngor,” meddai Gethin Thomas yng nghyfarfod y Cyngor yn Llyfrgell Geneslaethol yn Aberystwyth, “ac mae’n stondin y gellid fod wedi ei gwerthu sawl gwaith drosodd.
“Felly mae’n bwysig iawn ein bod yn ei defnyddio, nid fel lle i gael paned ac i adael bagiau, ond mae angen bod yn glir am y neges ydyn ni’n ei rhoi i bobol ar y Maes.”