Osian Roberts (llun gan yr Eisteddfod Genedlaethol)
Mae Osian Roberts, rheolwr cynorthwyol tîm pêl-droed Cymru, wedi cael ei enwi yn Llywydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn eleni.
Wrth anrhydeddu’r dyn sy’n enedigol o Fodffordd ar yr ynys, mae’r Eisteddfod yn ei ddisgrifio fel un a chwaraeodd ran allweddol wrth sicrhau bod y Gymraeg i’w gweld a’i chlywed drwy gystadleuaeth pencampwriaethau Ewrop y llynedd.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn beirniadaeth o awdurdodau’r Eisteddfod y llynedd am nad oedd pêl-droedwyr Cymru wedi cael eu hanrhydeddu gan yr Orsedd ar ôl eu llwyddiant yn Ffrainc.
Dadl yr Eisteddfod bryd hynny oedd bod penderfyniadau am anrhydeddau’r Orsedd yn cael eu gwneud fisoedd ynghynt, a bod yr Orsedd yn sefydliad ar wahân p’run bynnag.
Er bod y dyddiad cau am enwebiadau i’r orsedd ddiwedd Chwefror, chawn ni ddim gwybod am ddeufis arall a fydd rhai o aelodau carfan bêl-droed Cymru wedi cael eu hanrhydeddu eleni.
Gyrfa faith ac amrywiol
Mae gan Osian Roberts yrfa faith ac amrywiol ym myd pêl-droed ers ei ddyddiau ysgol ym Môn.
Ar ôl bod yn gapten tîm pêl-droed Ysgolion Cymru a chwarae dros Ddinas Bangor, Bethesda a Llangefni, derbyniodd ysgoloriaeth bêl-droed i America, lle parhaodd â’i addysg ym Mhrifysgol Furman De Carolina. Fe fu wedyn yn chwaraewr proffesiynol yn America, cyn troi at reoli tîm Albuquerque, New Mexico.
Ar ôl dychwelyd i Gymru, bu’n gweithio fel Swyddog Datblygu Pêl-droed ym Môn ac yn rheolwr Clwb Pêl-droed Porthmadog cyn ei benodi’n Gyfarwyddwr Technegol tîm pêl-droed Cymru.
Mae hefyd yn arbenigwr technegol ar ran UEFA, ac yn llais cyfarwydd ar faterion pêl-droed ar Radio Cymru ac S4C.
Fel rhan o’i anrhydedd eleni, fe fydd yn traddodi araith o lwyfan y Brifwyl yn ôl yn ei sir enedigol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.