Mae criw o Seiri Rhyddion o’r de yn destun rhaglen mewn cyfres newydd ar Sky 1.
Yn draddodiadol mae’r Seiri Rhyddion wedi body n hysh-hysh iawn am yr hyn maen nhw yn ei wneud.
Ond mewn pennod o Inside the Freemasons bydd Seiri Rhyddion o dde Cymru yn datgelu “rhywbeth sydd heb ei weld erioed o’r blaen”.
Yn ôl Paul Haley o Seiri Rhyddion De Cymru, mae bod yn rhan o’r grŵp yn ymwneud â “hanes, elusennau, ysblander a phasiantau”.
“Uwchlaw popeth mae’n canolbwyntio ar bobol dda yn cael hwyl… gwragedd a phartneriaid hefyd,” meddai.
“Cafodd un o’r rhaglenni ei ffilmio bron i gyd yn ne Cymru a bydd yn dangos rhywbeth sydd heb ei weld o’r blaen, hyd yn oed gan lawer o Seiri Rhyddion.”
Eleni yw’r 300 mlwyddiant ers sefydlu cymdeithas y Seiri Rhyddion.
Bydd y gyfres wythnosol yn dechrau ar nos Lun, 17 Ebrill am wyth o’r gloch.