Twm Morys
Mae colofn farddol Twm Morys wedi dychwelyd yn Y Cymro heddiw, fisoedd wedi iddo gael ei ddiddymu fel rhan o ymgyrch i dorri costau.
Yn dilyn ymgyrch gan y prifardd Twm Morys â chefnogaeth derwyddon a darllenwyr, mae’r golofn yn ei hôl.
Mae perchnogion presennol Y Cymro, Tindle Newspapers, wedi rhoi’r papur ar werth – ac mae Twm Morys yn credu bod hynny yn ffactor yn y penderfyniad i adfer y golofn farddol.
“Roedden nhw’n gweld Y Cymro yn dod i ben a meddwl ella fysa’n syniad da i’r golofn gael ei weld cyn i’r papur ddarfod am wn i,” meddai Twm Morys.
“Yr unig reswm mai nawr mae hi’n dychwelyd yw oherwydd rŵan dwi’n rhydd i’w sgwennu hi.
“Mi’r oeddwn i wrthi’n brysur iawn efo cylchgrawn arall, Barddas, yn rhoi hwnnw yn ei wely. Mi orffennais i Barddas a throi’n syth at golofn Y Cymro, a medru gwneud hi mewn pryd a dyna pam mae’n dod allan rŵan.”
Dyfodol Y Cymro
Yn ôl Twm Morys mae’n holl bwysig bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal er mwyn ceisio diogelu dyfodol Y Cymro, sydd ar werth, ac mae’n croesawu’r posibiliad o’r papur yn cael ei rhedeg yn gymunedol “fel papur bro anferth”.
“Fyswn i’n meddwl bod rhaid cael criw bach o bobol frwdfrydig iawn iawn, am sbel beth bynnag, fysa’n fodlon rhedeg y sioe am gyflog isel a gyda chymorth pobol fwy profiadol,” meddai.
Mae hefyd wedi rhybuddio bod hi’n bwysig fod Y Cymro yn aros fel papur – gan wrthwynebu’r temtasiwn i droi’n wefan yn unig – ac yn sicrhau ei fod yn bapur “cenedlaethol” gan ei fod wedi troi’n “blwyfol” ei olwg.