Côr CFfI Meirionnydd
Ffederasiwn Sir Benfro oedd enillwyr Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru eleni, a hynny wedi iddyn nhw gipio’r mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethau llwyfan.
Aeth y wobr am y côr buddugol i Sir Feirionnydd eleni wrth iddyn nhw gloi diwrnod o gystadlu brwd yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe.
Bu’n ddiwrnod prysur i Jessica Robinson o Sir Benfro wrth iddi gael ei henwi fel unawdydd gorau’r Eisteddfod, Sion Jenkins hefyd o sir Benfro am yr unigolyn gorau yn yr adran lefaru, a Dyfan Parry Jones o Sir Feirionnydd oedd unigol mwyaf addawol yn holl gystadlaethau’r Eisteddfod.
Torri cwys Fe dorrodd y mudiad gwys am y tro cyntaf eleni, a hynny wrth gynnal seremoni ddwbwl a chynnig cadair a choron i’r gerdd a’r rhyddiaith fuddugol.
A daeth galw o’r llwyfan ar i’r mudiad gyhoeddi’r gweithiau buddugol wedi i Iestyn Tyne o Eryri gael ei gadeirio a Naomi Nicholas o Sir Benfro gael ei choroni.
Yn ail a thrydydd yng nghystadleuaeth y côr oedd Sir Gâr ac Eryri, ac wrth gwt Sir Benfro yn y canlyniadau terfynol roedd Sir Gâr yn ail a Cheredigion yn drydydd. Gallwch ddod o hyd i ganlyniadau llawn yr Eisteddfod ar gyfrif Twitter @golwg360.
Eryri fydd yn rhoi cartre’ i Eisteddfod Cymru y flwyddyn nesaf.