Naomi Seren Nicholas o glwb Llysyfran, Sir Benfro ydi enillydd y Goron gynta’ erioed yn hanes Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Mae’r Goron yn cael ei rhoi am ddarn o ryddiaith, ac yn ôl y beirniaid Elonwy Phillips roedd stori ‘Gwenlli’ yn un “sensitif hynod”. Mae’n sôn am dri chymeriad, lle mae’n darlunio cymeriad “sydd ag obsesiwn pigo mwyar, bwyta mwyar a chwato mwyar”.
Mae Elonwy Phillips wedi galw ar i’r mudiad gyhoeddi’r gwaith buddugol “er mwyn i chithau i gyd gael ei mwynhau”.
Mae’r Goron yn cael ei rhoi gan Undeb Amaethwyr Cymru Ceredigion, ac mae wedi’i gwneud gan gyn-aelod o glwb Capel Iwan yn Sir Gâr, sef Dylan Bowen.
Cadair arall i Iestyn Tyne
Iestyn Tyne o glwb Godre’r Eifl yn Eryri, ydi enillydd y Gadair eleni. Ef hefyd enillodd coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sir y Fflint eleni.
Awdl ar y testun ‘Gwawr’ oedd gan y bardd wrth iddo ddarlunio angladd hen ŵr yng nghefn gwlad – ond gan weld gobaith yn y sefyllfa yn hyder y genhedlaeth iau.
Dywedodd y beirniaid Hywel Griffiths fod “newydd-deb a gwreiddioldeb yn y dweud” wrth iddo ddisgrifio’r hen ŵr fel “deilen grîn o werinwr”.