Y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni
Gyda’r glaw yn dechrau cilio ar faes y Brifwyl, fe ddaeth dros 18,000 o ymwelwyr i Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ddydd Mercher.

18,019 oedd yr union ffigwr, sy’n gynnydd bychan ers Eisteddfod Meifod llynedd, pan fuodd 17,914 ar y maes ar yr un diwrnod.

Mae’r ffigwr diweddaraf yn siŵr o fod yn galonogol i’r trefnwyr, gyda llai na’r arfer yn dod ar y dydd Llun a’r dydd Mawrth.

Y tywydd gwlyb oedd yn cael y rhan fwyaf o’r bai am gadw pobol draw.

Ar yr un diwrnod yn Eisteddfod Sir Gâr yn 2014, bu 19,004 ar y maes, gyda 19,626 yn Eisteddfod Dinbych yn 2013.

Yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf, Eisteddfod Wrecsam a’r Cyffiniau a ddenodd y mwya’ o bobol i’w maes ar y dydd Mercher, gyda 20,898 o ymwelwyr.

Hyd yn hyn, mae 78,896 o bobol wedi bod ar faes Eisteddfod Sir Fynwy.