Huw Marshall
Mae cwmni newydd yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw, gyda’i olygon ar hybu busnesau i weithio drwy’r Gymraeg.

Mae Awr Cymru’n ddatblygiad o Yr Awr Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n annog busnesau i hyrwyddo ei masnach drwy’r Gymraeg am awr yr wythnos ar Twitter.

Bydd Huw Marshall, sylfaenydd Yr Awr Gymraeg yn lansio Awr Cymru i ganolbwyntio ar helpu busnesau i elwa ar ddefnyddio’r iaith bob dydd.

“Rydym yn lansio’r gwasanaeth a gwefan y cwmni Awr Cymru yn wyneb y galw cynyddol am ddefnyddio’r Gymraeg i dyfu busnes,” meddai Huw Marshall, oedd yn Bennaeth Digidol S4C tan yn ddiweddar.

“Wrth lansio’r wythnos hon, fe fyddwn yn amlygu cwmnïau sydd wedi elwa o hyrwyddo yn y Gymraeg a thrwy ddefnyddio’r Awr Gymraeg.”

Cynnydd yr Awr Gymraeg

Ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2012, mae bellach gan Yr Awr Gymraeg dros 6,000 o ddilynwyr ar Twitter ac mae’r hashnod #yagym yn cyrraedd 700,000 o gyfrifon a 3,000,000 o linellau amser defnyddwyr Twitter bob wythnos rhwng 8 a 9 bob nos Fercher.

“Mae Yr Awr Gymraeg wedi cael ymateb cadarnhaol iawn dros y pedair blynedd ddiwethaf,” ychwanegodd Huw Marshall, “ond dim ond hyn a hyn y gellir ei gyflawni mewn oriau tu allan i’r gwaith.”

Gwerth y Gymraeg

Mae’r cwmni yn gobeithio annog busnesau i weld gwerth yn y Bunt Gymraeg, drwy ymchwilio i “werth ariannol” o farchnata, hyrwyddo a hysbysebu’n Gymraeg.

Yn dilyn llwyddiant Cymru yn Ewro 2016, fe wnaeth cwmnïau mawr rhyngwladol Adidas a Budweiser ddechrau trydar ambell neges yn Gymraeg, gyda’r Awr Gymraeg yn cydweithio â Budweiser ar eu hymgyrch.

Dyna y mae Awr Cymru yn gobeithio gweld mwy o gwmnïau yn ei wneud, gan weithredu fel rhiant gwmni i’r Awr Gymraeg.

Y bwriad yw “cynnig gwasanaeth hyrwyddo llawn amser ond hefyd i roi cyngor a darparu hyfforddiant ym maes cyfryngau cymdeithasol.”

“Gallwn hefyd gydlynu cyfarfodydd rhwydweithio lle gall unigolion rannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd,” meddai Huw Marshall.