Maes yr Eisteddfod (Llun g360)
Roedd mwy na 3,500 yn llai o bobol ar y maes heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy nag oedd y llynedd, pan oedd y Brifwyl yn ardal Meifod.
Mae wedi bod yn ddiwrnod gwlyb yn y Fenni heddiw, a dim ond 14,092 o ymwelwyr a ddaeth i’r maes, y ffigwr isaf yn ystod y naw mlynedd ddiwetha’.
Fe ddenodd Eisteddfod Meifod yn 2015, 17,683 o bobol i’r ardal, gyda 16,285 yn dod i’r Eisteddfod yn Sir Gâr yn 2014.
Uchafbwyntiau dydd Llun
Er y gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, bu’n ddiwrnod prysur gyda Llywodraeth Cymru’n lansio ei dogfen ymgynghorol i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Elinor Gwynn, a gipiodd y Goron eleni, gyda chasgliad o gerddi dan y testun llwybrau.
Mae dau artist wedi gosod darn o rew ar ganol Cerrig yr Orsedd hefyd, gan ddau artist, gyda ffilm gan yr artist Ifor Davies, Pyrogenesis, yn cael ei harddangos arni.
Ac wrth agor cyfnod enwebu Gwobrau Dewi Sant ar gyfer y seremoni fawr ym mis Mawrth, fe ddywedodd Nigel Owens, prif enillydd y gwobrau eleni, fod angen gwneud mwy i “ledaenu’r neges” am y gwobrau.