Rhodri Meilyr
Mae Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint wedi dweud heddiw nad yw trigolion yr ardal yn cael “cymaint o sylw” â Chymry eraill.
Dywedodd Rhodri Meilyr, sy’n wyneb cyfarwydd ar y sgrin, fod pobol y Fflint yn “Gymry balch iawn” ac yn “Gymry cryfach na rai eraill.”
Roedd ei neges yn adleisio un Llywydd y Dydd, dydd Llun – Caryl Jones Parry, oedd yn galw ar bobol i “beidio ag anwybyddu” pobol y Fflint.
Eisteddfod: ‘hwb i bobol leol’
Mae Rhodri Meilyr, sydd wedi ymddangos ar raglenni fel Gwlad yr Astra Gwyn a My Family, yn gobeithio y bydd cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal yn “hwb i bobol leol”.
“Y gobaith ydy y bydd yn rhoi hwb i bobol leol, maen nhw’n bobol falch iawn o’u Cymreictod ag efallai fel oedd Caryl Parry Jones yn sôn dechrau’r wythnos, dydyn nhw ddim yn cael cymaint o sylw,” meddai wrth golwg360.
“Ond maen nhw’n Gymry balch iawn ag os rhywbeth yn Gymry cryfach nag unrhyw rhai eraill oherwydd maen nhw’n gorfod brwydro dros yr iaith ac eto’n cael dim llawer o sylw.
“Be sydd gennych chi yw pocedi bach o Gymry balch iawn, sy’n brwydro’n ddyddiol i ddefnyddio’r iaith, a dydyn nhw ddim yn cael llawer o ddiolch, ond maen nhw’n dal i fynd ati achos eu bod nhw’n credu yn eu hiaith a chredu yn eu hardal.”
Mae Rhodri Meilyr yn dod o’r Wyddgrug yn wreiddiol, tafliad carreg o safle’r Eisteddfod eleni a dywedodd ei fod yn “fraint ac yn anrhydedd” cael bod yn Llywydd y Dydd.