Iestyn Tyne, enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016
Myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi cael ei goroni yn Eisteddfod yr Urdd Fflint 2016 ym mhrif seremoni’r wythnos.
Daw Iestyn Tyne o Foduan ym Mhen Llŷn yn wreiddiol, ac fe gafodd ei eni ar Ynys Enlli mewn aelwyd ddi-Gymraeg.
Er nad yw wedi ennill coron o’r blaen, mae wedi ennill wyth cadair, gyda’r ddiweddaraf draw yn Nhrevelin ym Mhatagonia. Roedd hefyd yn ail yn y gystadleuaeth yn 2015 a 2014.
Mae hefyd yn chwarae’r ffidil yn y grŵp gwerin-roc Patrobas, ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor.
‘Cyfoes’
Cafodd ei waith buddugol, dan y thema ‘Gorwelion’, ei chanmol gan y beirniaid Aled Lewis Jones a Jane Jones Owen fel “cyfrol lachar gyda sawl gorwel cyfoes a chyfredol”.
Bu’n trafod sawl pwnc yn ei waith gan gynnwys ceiswyr lloches, trawswisgwr, hunan-fomiwr, a ras arlywyddol America.
14 wedi ymgeisio
Cafwyd 14 ymgais ar gyfer y Goron eleni, ond roedd y beirniaid yn gytûn mai Iestyn Tyne oedd wedi rhagori.
“Mae’r casgliad yn llawn o bobl yr ymylon a thrwy ddawn y llenor medrwn uniaethu â’u sefyllfa,” meddai’r beirniaid.
“Ceir rhychwant llachar o olygfeydd ac o gyweiriau ysgrifennu, a chysondeb yn safon pob un o’r darnau.
“Fe deimlodd y ddau ohonom y byddai’r defnydd amrywiol hwn at ddant darllenwyr ifanc, ac yn rhwydo darllenwyr newydd at y Gymraeg oherwydd amrywiaeth ddifyr y gorwelion yn eu gwaith.”
Ifan Jenkins, o Ysgol Gyfun y Strade ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda Mari Huws Jones o Gylch Dyffryn Nantlle yn drydydd. Caiff y goron ei rhoi gan Ŵyl Ddrama yr Wyddgrug.