Wel dyna ni, y Steddfod Genedlaethol wedi bod mewn chwyrlwynt, ac yna wedi tewi am flwyddyn arall.

Erbyn diwedd yr wythnos, roedd sôn yn barod am Steddfod Pontypridd 2024, a phrynais docyn raffl gan y criw gweithgar oedd wrthi’n codi pres at honno; braf oedd gweld hynny, achos bydd y flwyddyn yn mynd mewn fflach, a bydd hi’n Steddfod eto cyn i ni wybod.

Bu sôn hefyd, wrth gwrs, am Steddfod Wrecsam 2025, wrth i’r sibrydion ledaenu a’r dyfalu ddechrau ynglŷn â lle a pha fath o Steddfod fydd hi; yn ddigon ysmala, medraf ddweud gyda sicrwydd erbyn hyn, taw steddfod yn y caeadau fydd hi.

Gadewais y Steddfod ddiwrnod yn fuan, yn syth ar ôl gig Bob Delyn a’r Ebillion yn y Tŷ Gwerin, gig lle bu ciw anferthol, gyda phobol wrthi’n bachu seti awr o flaen llaw!

Yn gynharach yn yr wythnos, bu fy ngŵr yn ciwio am oriau ar y ffyrdd i gyrraedd yr Eisteddfod, ac roeddwn bach yn nerfus am gael fy nal yn y sgrym i adael Boduan, felly rhwygais y babell oddi ar y cae, stwffiais hi i gist y car ryw hen ffordd, a gyrrais adre’ i’r gororau.

A nawr, dyma lle ydw i, dal wrthi’n prosesu’r profiad dros baned, ac yn meddwl am y ddwy nesaf…

Fy mhrofiad i ym Moduan

Roeddwn wedi prynu’r Rhaglen ac wedi lawrlwytho’r ap, ac wedi cynllunio i fynychu pethau penodol, yn ogystal â chymryd rhan mewn ambell i beth.

Ond wrth gamu i Faes yr Eisteddfod, agorodd sawl fforc yn y ffordd a chrwydrais o gwmpas mewn modd cwbl boho a rhydd… a mwynheuais brofiadau newydd ac annisgwyl o ganlyniad.

Cefais amser hyfryd draw ym Mragdy’r Beirdd, lle cenais ‘Oes aur Wrecsam’, cân o fy nghyfrol newydd sydd ar y gweill; cân yw hon sy’n cynnwys rhai o enwau’r pentrefi ac ardaloedd o fewn y Ddinas-Sir, a daeth un ddynes ataf wedyn i ddiolch i mi yn frwdfrydig am enwi Dyffryn Ceiriog!

Roedd yn hyfryd o noson, gan gynnwys cwrdd â fy nghyd-golofnydd Malachy Edwards. Cymerais ran hefyd mewn cwis ar stondin Golwg, gan gwrdd â mwy o fy nghyd-weithwyr, a hefyd Dewi Pws a Bethan Gwanas.

Cyflwynais fy ngwaith celf a fy ngherddi mewn digwyddiad gyda Disability Arts Cymru yn ‘Y Lle Celf’; roeddwn yn ddigon anffodus i clasio ar y rhaglen gyda Qwerin a Bwncath! Ond mi ddôth ambell i ffrind draw i fy nghefnogi, ac rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.

Cefais wybod am lansiad rhifyn yr haf o gylchgrawn Barn gan Laura Karadog, a chael fy siomi ar yr ochr orau wrth ffeindio fy hun mewn sesiwn blasu gwin!

Ar stondin S4C, sgwennais sawl cais am ganeuon newydd i’r sianel a bŵth carioci, ac wrth brofi’r bwth, synfyfyriais fod sawl llinell o ‘Dwylo Dros y Môr’ hefo gormod o silloedd i ffitio’r alaw.

Ciwiais hyd syrffed i weld fy hoff artistiaid yn y Tŷ Gwerin, gan drafod hefo eraill yn y ciw rinweddau prynu SHWEE er mwyn cael aros yn y babell trwy’r dydd.

Meinir-Gwilym-ar-Llwyfan-y-Maes
Meinir Gwilym yn ei siwper hyfryd

Gwelais Meinir Gwilym ar Lwyfan y Maes, yn gwisgo siwmper hyfryd! Gwrandewais ar fy ffrind Stephen Rule ym Maes D yn trafod ei daith iaith, a chefais sawl sgwrs galonogol gyda gwrandawyr ein podlediad.

Gwirionais ar weld fy mhamffled o farddoniaeth ar werth ar stondin Awen Meirion, a hyfryd oedd cwrdd â fy ffrind Lynne Davies ene i arwyddo copi ohoni wrth iddi ei brynu.

Trawiad_Seizure-stondin-Awen
Trawiad|Seizure ar stondin Awen Meirion

A mynychais stondinau oedd yn ymwneud â fy obsesiwn newydd, sef cerddoriaeth; cefais sawl sgwrs hyfryd ac ysbrydoledig, a bwciais i fynd ar encil Cerdd Dant.

Breuddwydiaf am Eisteddfod Wrecsam ddwy flynedd ymlaen llaw

Ar ôl cysgu mewn pabell, roedd cysgu yn fy ngwely fy hun yn foethusrwydd. Ac, wrth suddo i gwsg bodlon, dechreuais feddwl sut Steddfod gawn ni draw ym mro fy mebyd, yn ddelfrydol…

Gwelaf gaeau cyfarwydd a choed, afon, ac adeilad hyfryd – rywle lle fues i’n smalio bod yn Huckleberry Finn ar un adeg, ac Araminta dro arall; lle fues i’n argyhoeddedig ei fod yn gartref i Moonface a Silky, a chymeriadau eraill y llyfrau plant roeddwn yn dotio arnyn nhw.

Gwelais Dŷ Gwerin oedd wedi dyblu mewn maint, a Bwncath yn chwarae drwy’r dydd a’r nos mewn pabell fawr eu hunain.

Golwg-or-Pedair-o-tu-fas-i-Ty-Gwerin
Golwg o’r Pedair o tu fas i Ty Gwerin

Roedd pob stondin ar y Maes yn hysbysebu eu hopsiynau di-glwten yn glir, ac yn dilyn rheolau syml i alluogi bwydydd sy’n naturiol yn ddi-glwten i beidio cael eu halogi.

Yn wir, mi roedd yna stondin gwbl ddi-glwten yn gwerthu pob math o bethau, gan gynnwys pizza gyda chrwstyn fflywchog, a minnau’n gwario fy mhunt ddi-glwten yn llawen!

Roedd Bragdy’r Beirdd yn fy hen weithle, gyda’i faes parcio enfawr yn gartref hael i’r marquee a’r llwyfan. Ac yno, wrth i ysbryd Sara-fach chwarae ar yr hen sleid ene, cenais am fy hoff atgofion Wrecsamaidd.

Breuddwyd hyfryd, ac rwyf am gyfrannu tuag at y paratoadau i’w gwireddu…