Meleri Wyn James o Aberystwyth yw enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan eleni.

Roedd 16 o geisiadau yn y gystadleuaeth oedd yn gofyn am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Porth’.

Y beirniaid oedd Menna Baines, Lleucu Roberts ac Ion Thomas.

Cafodd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 eu cyflwyno er cof am Robyn a Gwenan Léwis gan y teulu.

‘Testun eang ei bosibiliadau’

“Mae ‘Porth’ yn destun eang ei bosibiliadau a difyr oedd gweld ymatebion gwahanol y cystadleuwyr iddo,” meddai Menna Baines wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Diolch iddynt i gyd am fynd ati.

“Mae’n wir dweud bod yna wahaniaeth mawr rhwng y goreuon a’r gwannaf yn y gystadleuaeth eleni.

“Ond mae’n wir hefyd inni fwynhau rhywbeth yn y rhan fwya o’r gweithiau ac mae’n dda gallu dweud bod safon y goreuon yn uchel.

“Gan fod ein tair beirniadaeth unigol ar gael yn y Cyfansoddiadau, dyma ganolbwyntio yma pnawn ’ma ar y gweithiau wnaeth argraff arbennig ar y tri ohonom.

Porth

Porth gan Merch y Wendon Hallt. Dyma inni waith chwareus, a’i chynnwys, fel y sylwodd Ion, yn hollol Gymreig ac Eisteddfodol!

“Oherwydd beirniad Eisteddfodol ydi’r traethydd, Siwan – beirniad mewn cystadleuaeth ysgrifennu stori a hynny yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd!

“Wrth ddarllen y straeon mae Siwan yn cofnodi ei hargraffiadau mewn llyfr nodiadau. A thrwy hwnnw down hefyd i ’nabod Siwan ei hun – ei phrofiadau fel merch yn tyfu i fyny yn Llŷn, yna’n lledu ei hadenydd fel myfyriwr cyn dychwelyd i’r penrhyn, priodi a dod yn fam.

“Cawn olwg ar gymdeithas Gymraeg wledig heddiw a lle’r ferch ynddi.

“Mae yma ddoniolwch a dychan crafog, gan gynnwys ambell gic i’r byd llenyddol Cymraeg.”

Trothwy

Trothwy gan Teithiwr. Casgliad o straeon byrion sydd yma.

“Mae tair ohonynt yn disgrifio profiadau ceisiwr lloches, merch ifanc feichiog, wrth iddi gyrraedd y wlad hon a chael ei gyrru yn y man i Gaerdydd.

“Caerdydd hefyd yw lleoliad y rhan fwya o’r straeon eraill, sy’n sôn am bobol eraill.

“Rhywbeth arall sy’n rhoi unoliaeth braf i’r casgliad ydi’r modd mae cymeriadau o rai o’r straeon yn ailymddangos ar gyrion straeon eraill.

“Effaith hyn oll, fel y dywed Lleucu, ydi creu “panorama dinesig o bobl, yn gweu drwy’i gilydd, pob un â’i stori.

“Yn ogystal â dangos cydymdeimlad dwfn â’i bobol, mae Teithiwr yn sylwebydd cymdeithasol craff.

“Mae’n storïwr crefftus sy’n gwybod gwerth ymatal.

“Mae’n wir fod yma ambell fan gwan, ond ar y cyfan dyma gasgliad rhagorol.”

Hallt

“Mae un gwaith ar ôl, sef Hallt gan Fi a Ti.

“Nofel am fam a’i merch 16 oed sydd ag anghenion arbennig.

“Y ‘porth’ fan hyn yw’r trothwy rhwng byd plentyn a byd oedolyn.

“Mae’r stori’n cael ei hadrodd gan Elen, y fam, a Cari, y ferch, bob yn ail.

“Wrth i Cari aeddfedu’n gorfforol a chyfarfod pobl newydd gan gynnwys bachgen, dilema Elen a’i gŵr yw faint o ryddid i’w ganiatáu iddi.

“Dyma stori sy’n cydio o’r dechrau gan adeiladu at uchafbwynt dramatig.

“Mae’r portread o Cari yn un hyfryd.

“Oes, mae ’na ryw letchwithdod cynhenid yn perthyn iddi sy’n gwneud cymdeithasu’n anodd, ond yn raddol down i weld heibio hynny at ei hanwyldeb a’i natur onest, agored.

“Weithiau, yn wir, mae ei gonestrwydd yn ein llorio.

“Fel pob person ifanc mae’n edrych i’r dyfodol ac fel pob rhiant mae’r rhaid i’w mam ddysgu gollwng gafael.

“Mae Merch y Wendon Hallt, Teithiwr a Fi a Ti yn awduron medrus iawn.

“Ond wrth drafod ac aildrafod, y gwaith yr oedden ni’n dod yn ôl ato o hyd oedd nofel Fi a Ti – y nofel syml ond haenog yma am berthynas mam a merch ac am dderbyn pobol fel maen nhw.

“Nofel brydferth, dyner a gorffenedig. Nofel ddyrchafol hefyd.

“Fi a Ti sy’n cael y Fedal eleni.”

Yr enillydd

Mae Meleri Wyn James yn awdur ac yn olygydd creadigol i wasg Y Lolfa.

Cyhoeddodd lyfrau ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion.

Hi yw awdur y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant, yn ogystal â’r ddwy sioe Na, Nel! gafodd eu llwyfannu ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron y llynedd ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Mae hi wrth ei bodd yn darllen ac ysgrifennu ac yn mwynhau mynd i ysgolion, gwyliau ac eisteddfodau i ysgogi plant a phobol ifanc i ddarllen ac i ddefnyddio eu dychymyg.

Cafodd ei geni a’i magu yn Llandeilo ac fe symudodd y teulu i Beulah ger Castellnewydd Emlyn ac yna i Aber-porth.

Fe raddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth ac astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Fe gyhoeddodd ei llyfr cyntaf, casgliad o straeon byrion o’r enw Mwydyn yn yr Afal, ar ôl ennill Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd yn Nhaf Elái yn 1991.

Yn y blynyddoedd diwethaf, cyhoeddodd y nofel Blaidd wrth y Drws i oedolion a Cors Caron, nofel i bobol ifanc.

Mae hi’n byw yn Aberystwyth ers dros ugain mlynedd gyda’i gŵr, Siôn Ilar, a’u merched Mia Seren ac Esther Alys.

Mae Meleri a Siôn yn cadw llety gwyliau o’r enw Cae Bach ac yn ei ddefnyddio i gefnogi busnesau lleol eraill.

Mae hi’n aelod o Glwb Athletau Aberystwyth, a diolch i gefnogaeth ei chyd-redwyr yn y clwb mae hi wedi cwblhau sawl hanner marathon.

Mae hi’n mwynhau marchogaeth ceffylau ar hyd tiroedd Cwm Rheidol yng nghwmni ei merched.

Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn ffasiwn ac mae hi’n hoffi gwnïo dillad.

Mae hi hefyd yn joio cymdeithasu gyda theulu a ffrindiau.

Fe ddechreuodd hi ysgrifennu’r nofel Hallt yn syth ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion gyda’r bwriad o geisio rhoi llais i blant a rhieni sydd yn byw gyda heriau a holl bleser llywio taith bywyd gydag anghenion ychwanegol.

Mae modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener (Awst 11).