Mae golwg360 wedi cael clywed am brofiadau un fu ynghanol yr hyn mae’n ei alw’n “ddiffyg trefn” a “diffyg cyfathrebu” wrth giwio ym Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Bu’n rhaid i gannoedd o bobol giwio am rai oriau ddoe (dydd Mawrth, Awst 8) wrth i Faes B agor ei ddrysau ym Moduan, wrth iddyn nhw rybuddio pobol i sicrhau fod ganddyn nhw docyn a dull adnabod priodol, er enghraifft trwydded yrru neu basport cyfredol, cyn mynd i mewn.

Daw hyn wrth i Heddlu’r Gogledd ddweud bod “swm sylweddol” o gyffuriau dosbarth A a B gael eu darganfod, ynghyd â chyllell, wrth fynedfa Maes B ar y noson gyntaf.

‘Ciws yn ofnadwy’

Yn ôl un unigolyn sydd wedi bod yn siarad â golwg360 ond sydd eisiau aros yn ddienw, roedd y “ciws yn ofnadwy” wrth iddi gyrraedd am 1.30yp.

“Doedd yno ddim trefn ar ddim byd a phawb wedi cael eu sgwashio fyny heb ddim bwyd a diod yn cael ei gynnig,” meddai.

“Roedd y staff yn warthus yn cyfathrebu gyda ni.

“Fuasai hyn ddim wedi cael ei adael i ddigwydd yn ciwio i’r Orsedd felly pam Maes B?

“Doedd dim math o health and safety, roedd yn union fel pobol ifanc wedi cael eu sgwashio mewn ffensys.

“Ar ôl hanner awr i awr, wnaethon nhw roi ffens yn ystod y ciw i bobol adael, gyda dyn security i ddeutha pobol sgwashio mwy.

“Roedd o yn afiach ac yn sicr ddim y profiad oedd o i fod.

“Wnes i deimlo’n sâl sawl gwaith yn ystod y ciwio.

“Ar ôl pedair awr a hanner hir yn cario stwff fi, cyrhaeddais a gosod y tent ond roedd pobol dal i giwio am noson.

“Rwy’n gobeithio wneith Maes B ymddiheuro am y drafferth hyn.”

Ymateb yr Eisteddfod

“Mae’r drefn wirio yn cymryd mwy o amser ond mae’n gwneud hynny er mwyn llesiant pobol, a dyna sydd yn bwysig i ni – bod bob un sy’n dod mewn i Maes B yn gyfforddus, ond ein bod ni’n gwirio o ran diogelwch,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Mae gwiriadau bagiau’n digwydd a hynny o ran alcohol os yw pobol dan oed, cyffuriau, ac hefyd offer sy’n amhriodol i ddod mewn.

“Gwell ydy cymryd amser a bod hynny’n cael ei wneud yn drylwyr, ac ein bod ni wedi diogelu pobol ifanc.”

Ychwanega fod yna ddŵr yn cael ei roi a bod gweithwyr llesiant yn gwirio bod pawb yn hapus.

“Fues i yna ddwywaith ac roedd pawb yn cael sgyrsiau ac yn edrych ymlaen i fynd i fewn.

“O ran y niferoedd, mi ddaeth yna ddwywaith beth sy’n arfer ar y diwrnod cyntaf, ond dyw hwn ddim yn stori newydd, mae yna giwio ar gyfer pobol ifanc ers blynyddoedd – dyma sy’n digwydd ym mhob gŵyl.”