Mae ardal newydd ar gyfer aelodau ifanc y gymuned LHDTC+ yng Nghymru wedi cael ei lansio ar Faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn Llanymddyfri.

Dros yr wythnos, mae gweithdai a gweithgareddau wedi’u cynnal yn ardal Cwiar na nOg, yn ogystal â chyfle i brynu bathodynnau rhagenwau.

Mae’r ardal yn ofod diogel i blant a phobol ifanc gymdeithasu, a dysgu mwy am eu hunaniaeth drwy’r Gymraeg, meddai’r Urdd.

Yn ôl Aled Rosser, un o arweinydd prosiect Cwiar na nOg ac aelod ifanc o Fwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau, bydd gweld ardal o’r fath yn helpu pobol ifanc LHDTC+ i deimlo fel eu bod nhw’n cael bod yn nhw eu hunain, ac i gael croeso yno.

“Ers blynyddoedd, mae pobol ifanc cwiar wedi teimlo – ac roedd hwn wedi dod allan o’r sgyrsiau gaethon ni efo nhw – bod dy hunaniaeth di fel person Cymraeg a pherson cwiar hollol ar wahân, ac mae e’n beth trist,” meddai Aled Rosser wrth golwg360.

“Pan mae gyda ti gannoedd o bobol ifanc yn dod i Eisteddfod yr Urdd a gweld rhywbeth sy’n actively gwleidyddol yn cwiar, mae e’n gwneud i ti deimlo fel dy fod di’n cael dy weld, a theimlo fel ‘dw i’n cael croeso fan hyn, dw i yn cael bod yn fi’n hun’.

“Hyd yn oed os mai ond yn yr ardal honno maen nhw’n gallu teimlo felly, o leiaf mae hi’n ardal hyfryd ac maen nhw’n teimlo fel eu bod nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain heb fod yn sori.

“Dw i wedi bod yn cwiar drwy fy oes, ac wedi bod yn aelod o’r Urdd ers i fi fod yn ifanc iawn.

“Y deialog mewnol oeddwn i’n gael gyda fi’n hun: ‘Mae hwn ddim yn iawn, mae hwn ddim be dw i eisiau bod’… mae gweld rhywbeth fel yma ar y maes yn mynd i negydu’r deialog yna, a theimlo fel bod ti yn cael yr affirmation yna – ‘Dw i yn oce, dw i yn normal, dw i ddim yn weirdo’.

“Fysa gweld hwnna ar Faes yr Eisteddfod pan oeddwn i’n llai, fysa fo wedi bod yn broses haws i ddod allan i bawb arall.”

Aled Rosser

Bathodynnau rhagenwau

Syniad pobol ifanc sy’n perthyn i’r gymuned LHDTC+ oedd creu bathodynnau rhagenwau, sy’n cynnwys rhai sy’n dweud ‘hi’, ‘nhw’, ‘fe/fo, nhw’, ‘hi, nhw’ a ‘fo/fe’.

“Fe wnaeth [y bobol ifanc] sôn am y syniad o gael gofodau diogel bach o gwmpas y Maes,” eglura Aled Rosser.

“Ti’n cerdded lawr y stryd, ti’n gweld rhywun gyda chrys-t enfys neu gareiau sgidiau enfys neu’n gwisgo bathodynnau rhagenwau, a ti’n gallu ymlacio ychydig bach, ti’n gallu bod yn ychydig bach mwy o chdi dy hun a bod y pryder yna ddim yna.

“Roedd cael y concept yna o amgylch y maes, bod gyda ti un gofod mawr lle mae pobol yn gallu teimlo’n saff, ond hefyd bod gyda ti aelodau o staff a’r cyhoedd eisiau gwisgo bathodynnau rhagenwau fel bod pobol yn teimlo fel eu bod nhw’n gallu bod yn fwy ymlacedig o’u cwmpas nhw.”

Llywydd y Dydd: “Tase Cwiar na nOg fel hyn wedi bodoli pan o’n i’n iau, byddai e wedi newid bywyd fi yn llwyr”

Yn gweithio i’r BBC ers 15 mlynedd, mae Owain yn adnabyddus ar draws Cymru a thu hwnt fel y dyn tywydd a gyflawnodd her Drumathon Plant Mewn Angen