Mae sêl bendith wedi’i roi i ddatblygiad campws gwerth nifer o filiynau o bunnoedd fydd yn gweld ysgol Gymraeg yn y Bont-faen yn dyblu mewn maint.

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datgelu bod disgwyl i’r cynlluniau ar gyfer adeilad newydd Ysgol Iolo Morgannwg gael eu cwblhau erbyn mis Medi 2025.

Wedi’i glustnodi ar gyfer tir ar ddatblygiad preswyl newydd Gerddi Clare i’r gogledd-orllewin o Fferm Darren, bydd yr ysgol newydd yn gweld nifer y llefydd sy’n cael eu cynnig i ddisgyblion yn codi o 210 i 420.

Bydd nifer y llefydd meithrin hefyd yn codi o 66 i 96.

“Ddim yn bosib” ehangu’r safle presennol

“Dydy hi ddim yn bosib ehangu safle presennol Ysgol Iolo Morgannwg,” meddai’r Cynghorydd Rhiannon Birch, sydd â chyfrifoldeb dros Addysg, y Celfyddydau a’r iaith Gymraeg ar Gyngor Bro Morgannwg.

“All yr adeilad o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ddim cynnal amgylchfyd dysgu cyfoes ac mae lle cyfyng tu allan yn cyfyngu ar allu’r ysgol.

“Bydd y buddsoddiad o £13m yn ariannu adeilad ysgol pwrpasol newydd sbon sy’n addas ar gyfer addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain, gan fod o fudd i ddisgyblion, staff a’r gymuned ehangach.

“Fel Cyngor, mae’n hanfodol ein bod ni’n cefnogi niferoedd cynyddol y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau o ran y galw presennol ar gyfer addysg Gymraeg ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol sydd i ddod.

“Bydd campws newydd mwy o faint ar gyfer Ysgol Iolo Morgannwg yn cefnogi siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau yn y tymor hir.”

Strategaeth Addysg Gymraeg

Mae’r datblygiad gwerth £13.74m, fydd wedi’i leoli 1.3km i ffwrdd o safle presennol yr ysgol, yn rhan o ymdrechion y Cyngor i fodloni eu hymrwymiadau o ran eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac i gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Fel rhan o ddatblygiad Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, bydd campws newydd Ysgol Iolo Morgannwg yn cynnwys canolfan addysg oedolion a chanolfan drochi yn y Gymraeg ar gyfer disgyblion oedran cynradd saith oed a hŷn.

Bydd hefyd yn cynnig rhaglenni addysg ar gyfer oedolion a dysgu yn y gymuned y tu allan i oriau ysgol.

Wrth agor ysgol uwchradd Gymraeg, Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, y gobaith yw y bydd y niferoedd cynyddol o ddisgyblion sy’n dod o Ysgol Iolo Morgannwg yn cael darpariaeth dda yn y sir wrth symud yn eu blaenau i addysg uwchradd.