Mae tystiolaeth yn awgrymu bod dysgwyr â’r anghenion mwyaf dwys a chymhleth yn dewis addysg cyfrwng Saesneg, gan eu bod nhw’n ymwybodol na fydd cefnogaeth briodol ar gael iddyn nhw yn y Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Daw sylwadau Efa Gruffudd Jones wrth iddi hi a Chomisiynydd Plant Cymru alw ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri am well darpariaeth dysgu drwy’r Gymraeg.
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o drefnu adolygiad cenedlaethol o’r maes a’r ddarpariaeth gaiff ei chynnig ar hyn o bryd drwy’r Gymraeg.
Mae hi’n ofynnol i awdurdodau lleol greu cynlluniau strategol ar gyfer y Gymraeg mewn addysg, ac er bod nifer yn cyfeirio at ffyrdd o fynd i’r afael â darpariaeth dysgu ychwanegol, does dim proses i rannu arfer da yn ehangach.
Ar hyn o bryd, mae Canolfan yr Eithin, canolfan arbenigol yn Sir Gaerfyrddin, yn darparu cefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, a hoffai rhiant un ferch sy’n cael cefnogaeth gan y ganolfan weld y ddarpariaeth yn cael ei hymestyn ledled Cymru.
“Rydyn ni wedi bod yn eithaf lwcus bod y ganolfan yn Sir Gaerfyrddin, rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn o hynny,” meddai Catrin wrth siarad â golwg360 am ei merch Mabli, sydd ag awtistiaeth.
“Fi’n deall ar draws Cymru, mewn sawl sir, does dim unedau Cymraeg gyda nhw.
“Mae’n bwysig iawn bod y plant yma’n cael eu haddysg drwy eu mamiaith, ac rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn bod y ganolfan gyda ni yn Sir Gaerfyrddin.
“O ran Mabli gyda ni, mae’n bwysig iawn ei bod hi’n cael addysg drwy’r Gymraeg ond yn meddwl amdano fe o ochr diwylliant Cymru, hanes Cymru, caneuon Cymraeg, chwedlau… mae Mabli’n cael yr addysg yna hefyd, mae’n rywbeth bywyd bob dydd o fewn yr ysgol.
“Dw i’n falch ei bod hi wedi cael y cyfleoedd yna hefyd; mae e’n fwy na dim ond addysg a’r iaith Gymraeg.”
‘Mwy i’w wneud’
Wrth wneud yr alwad, dywedodd Efa Gruffudd Jones fod “diffyg gwybodaeth o anghenion dysgwyr, dyw’r asesiadau safonol ddim ar gael bob amser drwy’r Gymraeg, ac mae diffyg adnoddau a chyfleoedd hyfforddi cyfrwng Cymraeg yn bodoli”.
“Mae yna dystiolaeth amlwg bod nifer sylweddol o awdurdodau lleol yn cydnabod nad ydyn nhw’n gallu cynnig darpariaeth lawn drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n wir i ddweud y mwyaf dwys yw’r anghenion, y lleiaf o gefnogaeth sydd ar gael,” meddai.
“Dyw hynny ddim yn dderbyniol.
“Y canlyniad yw bod disgyblion cyfrwng Cymraeg yn gorfod derbyn cefnogaeth cyfrwng Saesneg, neu fel arall yn methu â chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
“Y mater sy’n fy nhristáu fwyaf yw’r dystiolaeth sy’n awgrymu bod nifer o’r dysgwyr sydd â’r anghenion mwyaf dwys a chymhleth yn dewis addysg cyfrwng Saesneg, gan eu bod nhw’n ymwybodol na fydd cefnogaeth briodol ar gael iddyn nhw yn y Gymraeg.
“Dim dyna’r math o Gymru rydyn ni eisiau byw ynddi, dw i ddim yn meddwl.
“Mae yna ddiffyg gweithlu, ddiffyg adnoddau, ac rydyn ni’n derbyn bod y sefyllfa gyllidol yn gallu bod yn heriol, ond mae mwy allwn ni ei wneud.”
Pwysleisiodd ei bod hi’n awyddus i ganolbwyntio ar ddod o hyd i ddatrysiadau, ac efelychu arfer da fel darpariaeth Canolfan yr Eithin, yn hytrach na thrafod y diffygion.
“Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wneud diwygiadau yn y sector, ond beth rydyn ni eisiau ei wneud ydy tynnu sylw at y diffygion a gobeithio bydd yr adroddiad yn helpu yn y cyd-destun o ffocysu’r meddwl ar beth yw’r anghenion ac, o ran amserlen, sicrhau bod pethau’n dechrau symud yn gynt yn hytrach na hwyrach.”
‘Hawl i ddefnyddio eu hiaith’
Mae gan oddeutu 20% o ddisgyblion Cymru anghenion dysgu ychwanegol, a dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, ei bod hi’n “bryderus iawn bod yna blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sydd ddim yn cael mynediad at addysg Gymraeg neu ddim yn derbyn y gefnogaeth briodol”.
“Mae’r pwnc yn un anodd ei gredu, plant yng Nghymru oherwydd eu hanghenion methu derbyn addysg drwy eu mamiaith,” meddai.
“All hyn ddim bod yn sefyllfa rydyn ni’n fodlon ei derbyn.
“Mae gan bob plentyn yma’r hawl i addysg, hawl i ddefnyddio iaith ei hun, felly rhaid gwneud yn siŵr bod y system yna i wneud i hyn ddigwydd.”
Mae’r Comisiynwyr yn galw ar:
- awdurdodau lleol i adolygu eu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg, a defnyddio’r wybodaeth hynny i ddiweddaru eu cynlluniau strategol;
- Llywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen eu hadolygiad pum mlynedd ar ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg; a
- datblygu cynigion ar drefniadau cydweithio rhwng awdurdodau lleol.
‘Addysg Gymraeg i bawb’
“Rydym yn croesawu’r papur polisi hwn a byddwn yn ymateb maes o law,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn cydnabod yr heriau o greu system gymorth ddwyieithog ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
“Mae addysg Gymraeg i bawb, a dyna pam rydym wedi sicrhau bod darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol cyfrwng Cymraeg yn rhan allweddol o gynlluniau addysg awdurdodau lleol.”