Cafodd Lingo+, cartref straeon cylchgrawn dysgwyr Lingo Newydd ar-lein, ei lansio gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd a Lingo360, a’r colofnydd Francesca Sciarrillo heddiw (dydd Iau, Mehefin 1).
Dywedodd Francesca Sciarrillo, ddechreuodd ddysgu Cymraeg ychydig dros ddegawd yn ôl, fod y cylchgrawn a’r wefan wedi bod o help iddi wrth ddysgu’r iaith.
Bu’r ddwy yn trafod taith Francesca, sy’n dod o’r Wyddgrug ac yn hanu o deulu Eidalaidd, i ddysgu Cymraeg a’r llyfrau sydd wedi ei helpu ar y siwrne.
Roedd cyfres lyfrau Amdani i ddysgwyr o fudd i Francesca wrth fynd ati i ddysgu’r iaith, meddai.
“O fy mhrofiad i, cyn i fi symud i Fangor a chael y cyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg am y tro cyntaf roedd o’n eithaf anodd, roedd o’n teimlo bod Cymraeg yn rhywbeth oeddwn i’n wneud dim ond yn y dosbarth a’i gadw fo yn y dosbarth.
“Ond y peth pwysicaf ydy defnyddio’r iaith. Ti’n gweithio mor, mor galed i ddysgu felly mae hi’n bwysig iawn i ddefnyddio pob un cyfle i ddefnyddio’r iaith, siarad yr iaith, ymarfer, dysgu mwy a mwy.
“Trwy groesi’r bont a mynd i’r gymuned i ddefnyddio’r iaith wych rydych chi wedi dysgu, dyna sut ydych chi’n datblygu, dyna sut ydych chi’n gwneud perthnasoedd, a gwneud camgymeriadau!
“Mae yna lwyth o ffyrdd i ymgolli eich hunan yn yr iaith, gan gynnwys pethau fel hyn – Lingo Newydd sydd ar gael i helpu darllen, siarad, gwrando.
“Mi fyswn i’n dweud adnoddau fel Lingo, a llyfrau Cymraeg sydd wedi’u hanelu at siaradwyr newydd fel y gyfres Amdani.
“Dw i wrth fy modd efo Cawl a Straeon Eraill, cyfres o straeon byrion. Efo’r rhai Mynediad, mae yna un am geffylau gan Fiona Collins – fe wnaeth hi ennill Dysgwr y Flwyddyn yr un flwyddyn â fi, ond yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Ar hyn o bryd, dw i efo’r dosbarth Cymraeg i Oedolion ac yn darllen Stryd y Bont.
“Mae yna gymaint ohonyn nhw, ac maen nhw yn wych a maen nhw wir yn helpu, fel efo Lingo, pan mae gennych chi eirfa i helpu chi mae o’n helpu’r broses o ddarllen i lifo’n llawer gwell.”
Dylanwad cerddoriaeth
Yn hoff o wrando ar gerddoriaeth, yn arbennig Datblygu, mae Francesca Sciarrillo yn sôn bod cerddoriaeth wedi ei helpu i ddisgyn mewn cariad â’r Gymraeg.
“Mae o’n ffordd wych i gasglu geiriau newydd,” meddai.
“Hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o ddysgu, dw i wedi cael profiad o wrando ar Radio Cymru neu roi CD ymlaen yn y car a gwrando ar fy hoff artistiaid, fel Datblygu, a meddwl fy mod i ddim yn deall gair ohono – mae’n siŵr fy mod i’n deall ychydig ohono.
“Mae’n gallu effeithio hyder os ydych chi’n cael profiad fel yna a ddim yn deall gair ohono fo – ond cario ymlaen efo fo, darllen y geiriau, ac mae o’n dod wedyn.”
- Ewch i Lingo+
Lansio Lingo+ yn Llanymddyfri
Atgofion melys o fynd i Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf