Bydd trafodaeth am waith yr awdur JRR Tolkien a dylanwad y Gymraeg ar un o ieithoedd Lord of the Rings yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod ym Meifod heddiw.
Yn y ddarlith fe fydd y bardd Eurig Salisbury yn trafod y berthynas rhwng Sindarin, iaith y coblynaid (elves) yn ei nofelau ffantasi, a’r Gymraeg.
Cafodd Eurig Salisbury ei ddylanwadu’n ifanc gan waith Tolkien a’i gyfresi Lord of the Rings a The Hobbit ac mae’n mynnu bod yr iaith Gymraeg wedi cael effaith “ar y ffordd yr oedd e [JRR Tolkien] yn creu ei fydoedd.”
Bydd y Cynfardd Plant Cymru yn ymhelaethu ar erthygl a ysgrifennwyd ganddo yng nghylchgrawn Taliesin yn 2012 mewn trafodaeth ar y maes ddydd Llun.
‘Sŵn yr iaith’
“Camddealltwriaeth” yn ôl Eurig Salisbury ydi meddwl fod JRR Tolkien yn medru ysgrifennu Hen Gymraeg, a doedd ddim chwaith yn medru siarad Cymraeg modern.
Ond roedd ganddo ddealltwriaeth i’r iaith, ac mae “strwythur y brawddegau” a “sŵn yr iaith” Sindarin yn debyg iawn i’r Hen Gymraeg.
Ychwanegodd Eurig Salisbury fod JRR Tolkien “wrth ei fodd gyda’r Gymraeg” a’i fod yn tybio y “bydde fe wedi mwynhau ei dysgu”.