Y pamffled am Brifysgol Aberystwyth
Mae pamffled wedi cael ei ddosbarthu o gwmpas maes yr Eisteddfod heddiw yn gwneud honiadau ynglŷn â’r “problemau” ym Mhrifysgol Aberystwyth, a galw ar Lywydd y Brifysgol i ymddiswyddo.
Ond y newyddion diweddara’ yw fod y cyhoeddwr, yr ymgyrchydd iaith, Emyr Llywelyn, wedi ei tynnu’r daflen yn ol gan gydnabod bod camgymeriad sylfaenol ynddi.
Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys sawl honiad ynglŷn â datblygiad campws y brifysgol ym Mauritius gan godi cwestiynau ynglŷn â sicrwydd ariannol y cynllun.
Cafodd y pamffled ei gyhoeddi gan Emyr Llywelyn, a’i ddosbarthu gyda chylchgrawn dychanol Lol ar y maes.
Mae Golwg360 ar ddeall bod Prifysgol Aberystwyth yn paratoi ymateb i’r pamffled a’r honiadau.
Mauritius
Yn y pamffled mae Emyr Llywelyn yn galw am ymddiswyddiad Is-ganghellor y brifysgol April McMahon a’r canghellor Syr Emyr Jones Parry, gan gyfeirio at gwymp Aberystwyth yn y tablau prifysgolion.
Mae hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â chytundebau PFI mae’r brifysgol wedi arwyddo dros y blynyddoedd diwethaf.
Ac mae’r pamffled yn cwestiynu’r “risg uchel” sydd i ddatblygiad y coleg ym Mauritius, gan godi cwestiynau ynglŷn â chyfarwyddwyr y cwmni mae’n honni sydd yn rhedeg y campws.