Gareth F Williams
Yr awduron profiadol Gareth F. Williams a Caryl Lewis sy’n ennill Gwobr Tir na n-Og 2015.

Dyma’r chweched tro i Gareth F Williams ennill y wobr ac fe roedd ganddo, fel ei gyd-enillydd Caryl Lewis, ddwy gyfrol ar y rhestr fer eleni.

Mae Caryl Lewis yn ennill y categori cynradd am ei chyfrol Straeon Gorau’r Byd a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch.

Enillodd Gareth F Williams y categori uwchradd gyda’r nofel Y Gêm – ar y gêm bêl-droed enwog a chwaraewyd rhwng milwyr yr Almaen a Phrydain ar dir neb adeg y Nadolig, 1914.

Cyhoeddwyd yr enillwyr o lwyfan y Pafiliwn gan Lowri Cooke ac fe gafodd y beirdd eu cyfarch gan y bardd Aneirin Karadog.

Plentyndod

Mae cyfrol Caryl Lewis wedi’i hysbrydoli gan ei phlentyndod pan fyddai ei mam yn darllen stori iddi:

“Un o’m hoff atgofion o gyfnod fy mhlentyndod yw eistedd ar fy ngwely bob nos gyda Mam a chael stori. Yn ddiogel dan ei chesail, roedd y gwely’n troi’n awyren, yn llong fôr-ladron neu’n glamp o bili-pala wrth i ni wibio o gwmpas y byd trwy gyfrwng y straeon. Byddwn ni’n cael straeon hapus, straeon trist a straeon am bob math o deimladau yn y canol,” meddai Caryl Lewis.

“Bellach, a minnau’n fam, mae amser stori’n bwysig iawn i mi a’r plant, a dyna pam yr es i ati i ddarllen straeon o bob cwr o’r byd er mwyn dewis y rhai gorau ar gyfer y gyfrol hon.”

‘Cyfnod tywyll’

Mae nofel Gareth F Williams, sy’n byw yn Beddau, Pontypridd yn olrhain hanes dau ffrind o ddyddiau eu plentyndod i’r cyfnod tywyll y treuliodd y ddau yng nghanol erchylltra ffosydd Gwlad Belg.

“Cefais fy ysbrydoli i sgrifennu’r nofel gan y digwyddiadau a drefnwyd y llynedd i nodi can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod y gêm bêl-droed yn rhan bwysig o’r nofel, cyfrol yw hon am gyfeillgarwch a chariad, am hiraeth, ac am ffolineb dyn.

“Gwelwn effaith y gwrthdaro nid yn unig ar y milwyr ar flaen y gad, ond hefyd ar y rhai a arhosodd adref – y rhieni, y ffrindiau, y gwragedd a’r cariadon. Mae’r nofel yn gorffen ar Ddydd San Steffan 1914, pan ddisgwylid y byddai’r rhyfel yn dod i ben.

“Yr eironi creulon oedd y byddai’n rhaid dioddef pedair blynedd arall o dywallt gwaed cyn y byddai clychau heddwch i’w clywed yn atsain dros y wlad.”

Cyflwynir y gwobrau yn flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.