Mae rhai o fathemategwyr ifanc gorau Cymru wedi cael eu hanrhydeddu mewn seremoni ar Faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Ar ôl sefyll arholiad gafodd ei llunio gan griw dethol o wyddonwyr ac athrawon mathemateg, fe wnaeth 15 o ddisgyblion blwyddyn wyth, allan o 800, dderbyn clod arbennig am eu gwaith.
Er bod y Gystadleuaeth Fathemateg Genedlaethol wedi bod yn rhedeg ers 32 o flynyddoedd, mae’r trefnwyr wedi cryfhau’r cysylltiad â’r Urdd am y tro cyntaf eleni – yn y gobaith o ddenu mwy o bobol i roi cynnig ar yr arholiad.
“Dw i’n rhagweld y bydd y cysylltiad hwnnw yn dyfnhau ac yn cryfhau dros y blynyddoedd i ddod…ond dwi’n meddwl y bydd yn llwyddo i ddenu mwy a mwy o blant i gystadlu yn y gystadleuaeth,” meddai Gareth Ffowc Roberts, Cadeirydd Panel y Gwyddorau a Threfnydd y Gystadleuaeth Mathemateg Genedlaethol
“Siwr o fod y bydd natur y gystadleuaeth yn newid dros y blynyddoedd wrth i ni chwilio am fwy o gyfleodd i godi ymwybyddiaeth o fathemateg a dod a chyfleoedd i gael hwyl gyda mathemateg i blant ysgol.”
Y mathemategydd Gareth Ffowc Roberts yn trafod y gystadleuaeth: