Huw Antur, Cyfarwyddwr Glan-llyn
Eleni am y tro cyntaf, fe fydd Gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn Llanuwchllyn yn cynnig cwrs newydd i aelodau hŷn dros wyliau’r haf – Antur i’r Eithaf.
Fe fydd y 60 person ifanc sy’n cael lle ar y cwrs yn cael cyfle i wneud gweithgareddau mwy anturus na’r hyn sy’n arfer cael eu cynnig yng Nghlan Llyn, fel mynd ar wifren wib ym Mlaenau Ffestiniog.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Gyfarwyddwr Glan Llyn, Huw Antur ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch y bore ‘ma.
‘Cynnydd syfrdanol’
Yn sgil buddsoddiad o £500,000, mae’r gwersyll yn ddiweddar wedi adnewyddu eu cyfleusterau llety ac mae hynny wedi arwain at flwyddyn lwyddiannus iawn yn ôl Huw Antur:
“Mae mwy a mwy o ysgolion yn dod i’r gwersyll o bob rhan o Gymru,” meddai.
“Tan yn ddiweddar, gwersyll oedd ar agor am naw neu ddeg mis o’r flwyddyn oedd Glan-llyn ond yn y blynyddoedd diwethaf mi rydan ni wedi gweld cynnydd syfrdanol yn y defnydd o’r lle yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr.”
Bydd y cyrsiau newydd yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf a mis Awst.