Paul Hogg gyda'i Gadair
Fe fydd cadair fodern sy’n goleuo yn cael ei chyflwyno i Brifardd Urdd Gobaith Cymru ym mhrif seremoni’r Eisteddfod heddiw.

Y saer coed a’r dylunydd Paul Hogg o gwmni Craft Wales yn Ystrad Mynach sydd wedi dylunio’r gadair ac fe roedd yn awyddus i “greu argraff”.

Mae’r gadair, sy’n cael ei rhoi i’r gerdd gaeth neu rydd orau, wedi’i gwneud o diwbiau dur di-staen, gwydr gwydn, pren haenog bedw a goleuadau LED.

“’Wy wedi bod yn gwneud gwaith pren ers 20 mlynedd, ond dyma’r tro cyntaf i mi wneud cadair Eisteddfodol ac mae wedi bod yn fraint,” meddai Paul Hogg.

“O fewn 24 awr i dderbyn y comisiwn, ro’n i wedi creu’r darluniau cychwynnol ac o fewn saith niwrnod ro’n i wedi creu model – dyma oedd y man cychwyn.  Ro’n i’n awyddus i ddefnyddio deunyddiau modern – ro’n i eisiau gwneud argraff a chynhyrchu rhywbeth newydd, gwreiddiol.

“’Wy’n hapus iawn gyda’r canlyniad ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld y gadair ar lwyfan yr Eisteddfod.”

Gruffudd Antur o Lanuwchllyn oedd enillydd y Gadair ym Meirionydd y llynedd.

Seremonïau eraill

Yn ogystal â’r brif seremoni, fe fydd enillydd gwobr Tir na n-Og 2015 yn cael ei gyhoeddi’r prynhawn ‘ma.

Ac am 6:45 heno, fe fydd seremoni i gyflwyno medal John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, i gydnabod cyfraniad gwirfoddol dros ieuenctid yng Nghymru.

Dilwyn Price o Hen Golwyn sy’n cael ei wobrwyo eleni.

Llywydd y Dydd

Y cynhyrchydd teledu o Gaerffili Catrin Brooks yw Llywydd y Dydd heddiw.

Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Cwm Rhymni, fe ddechreuodd ei gyrfa fel actor ac yna symud i weithio y tu ôl i’r camera.

Ffigyrau ymwelwyr

Er mai ddoe oedd y diwrnod lle gwelwyd y lleiaf o ymwelwyr ar faes yr Eisteddfod, roedd y ffigwr yn cymharu yn ffafriol iawn a’r blynyddoedd cynt.

Fe ddaeth 15,376 o ymwelwyr i’r Maes yn Nelson ddoe – o’i gymharu â 14,882 dydd Mercher y llynedd a 12,029 yn 2012.